Pencampwriaethau Codi Pwysau Prydain yn dod i Faes Glas
Bydd Maes Glas, Canolfan Chwaraeon Prifysgol 黑料不打烊, yn cynnal Pencampwriaethau Codi Pwysau Prydain ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf.
Mae鈥檙 digwyddiad pwysig hwn yn cael ei gynnal yn 么l troed llwyddiannau 2012, sef cael t卯m codi pwysau Olympaidd China yn ymarfer yn y ganolfan, a chynnal cystadleuaeth codi pwysau鈥檙 Gwledydd Cartref.
Ystyrir y pencampwriaethau fel un o ddigwyddiadau mwyaf calendr codi pwysau Prydain, ac mae llwyddo yn y gystadleuaeth yn agor y drws i gystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Bydd dynion a merched o bob cwr o Brydain yn cystadlu yn y gobaith o ennill teitl. Bydd y cystadleuwyr yn cael eu pwyso yn gynnar yn y bore a bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 10am. Mae croeso i bobl ddod i wylio.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol 黑料不打烊: "Rydym yn falch iawn o groesawu codwyr pwysau o Brydain yn 么l i Faes Glas eleni, ac yn falch o gael cynnal digwyddiad mor bwysig."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013