Penodi aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dr Lowri Angharad AhronsonMae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi鈥檌 phenodi鈥檔 aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Dr Lowri Angharad AhronsonMae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi鈥檌 phenodi鈥檔 aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yw Cadeirydd y Cyngor a swyddogaeth y gr诺p yw cynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas 芒 strategaeth newydd y Gymraeg a chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.
Fel Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Prifysgol 黑料不打烊, mae gan Dr Lowri Ahronson brofiad eang ym maes polisi iaith a bydd yn defnyddio鈥檙 arbenigedd hwn yn ei r么l ar y Cyngor Partneriaeth. Mae Dr Ahronson yn cyhoeddi gwaith academaidd ym maes cynllunio iaith ac fe fu鈥檔 gyfrifol am arwain datblygiad MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol Prifysgol 黑料不打烊. Ar hyn o bryd mae鈥檔 arwain datblygiad Tystysgrif Genedlaethol Sgiliau Iaith Gymraeg ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel cadeirydd grwpiau sirol a chenedlaethol ym maes polisi iaith, mae鈥檔 ymwneud 芒 datblygu gweithleoedd dwyieithog ac roedd, er enghraifft, yn rhan o鈥檙 t卯m yng Nghanolfan Bedwyr a ddatblygodd y wefan Cymorth Cymraeg. Mae gan Lowri ddiddordeb hefyd yn nimensiwn rhyngwladol cynllunio iaith ac mae wedi datblygu cysylltiadau a hwyluso trafodaethau rhwng arbenigwyr yng Nghymru a Chanada er mwyn cyfoethogi ein dealltwriaeth o鈥檙 maes cymhleth a chyffrous hwn.
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
'Mae'n fraint i ni fel sefydliad weld dylanwad amlwg aelodau staff ar y byd a'r bywyd Cymreig. Y mae cyfraniad Dr. Lowri Ahronson i faes Polisi Iaith yn wybyddus ers tro byd ac mae'n dda bod ei harbenigedd hi (a blaengaredd Canolfan Bedwyr, Prifysgol 黑料不打烊) ar gael er budd Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn ystod y tair blynedd nesaf.'
Prifysgol 黑料不打烊 yw鈥檙 brifysgol arweiniol yng Nghymru o ran cynnig modiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr ac o ran safon ac ystod ei gwasanaethau dwyieithog. Cydnabyddir bod gwaith Canolfan Bedwyr ym maes cynllunio iaith yn arloesol ac mae ei dylanwad yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012