Penodiad i arwain thema newydd ymchwil iechyd i Pontio
Dr John ParkinsonMae Dr John Parkinson wedi cael ei benodi i arwain thema ymchwil newydd i broject Prifysgol 黑料不打烊, a ddatblygwyd yn y cyfnod yn arwain at agor canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi yn 2013.
Mae rhaglen ymchwil ac arloesi Pontio yn datblygu tair thema ymchwil ryngddisgyblaethol: Iechyd, yr Amgylchedd a Diwylliant. Bydd Dr Parkinson yn arwain thema 鈥業echyd鈥, gan ymuno 芒鈥檙 Athro Jerry Hunter sy鈥檔 gyfrifol am 鈥楧diwylliant鈥 a鈥檙 Athro Tom DeLuca sy鈥檔 arwain thema鈥檙 鈥楢mgylchedd鈥.
Bydd Dr Parkinson yn dod ag arbenigeddau ymchwil o bob rhan o鈥檙 Brifysgol at ei gilydd er mwyn annog cydweithio ar draws disgyblaethau. Bydd John yn rhannu ei amser rhwng Ysgol Seicoleg Prifysgol 黑料不打烊 a chyfrifoldebau ei swydd newydd.
Un o orchwylion Pontio yw bod yn gyfrwng i ddatblygu a chyflwyno arbenigedd presennol Prifysgol 黑料不打烊 a gwneud yn si诺r bod cynulleidfaoedd a chymunedau y tu allan i鈥檙 brifysgol yn elwa ar yr ymchwil yma.
Meddai Dr Parkinson:
鈥淢ae gan Brifysgol 黑料不打烊 gryfderau sylweddol ar draws llawer o ddisgyblaethau, a fy swyddogaeth i fydd annog gwaith cydweithredol. Bydd y thema 鈥業echyd鈥 yn edrych ar bob agwedd ar les, o atal salwch i hybu gwytnwch.
Maes y mae gen i ddiddordeb arbennig mynd ar ei 么l drwy Pontio yw seicoleg y gweithle 鈥 edrych ar sut y gallwn hybu amgylchedd dymunol sy鈥檔 helpu i roi hwb i fusnes a hefyd meithrin ymdeimlad o berthyn mewn unigolion.
Gallai arbenigwyr o feysydd nad ydynt wedi arfer cydweithio yn y gorffennol 鈥 megis y celfyddydau, seicoleg, busnes, gofal iechyd ac felly ymlaen 鈥 ddod 芒 gwahanol arbenigedd i鈥檙 maes ymchwil yma.
Bydd Pontio yn gyfrwng rhagorol i roi llwyfan newydd i ymchwil ym Mangor a sicrhau bod y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol. Dwi'n teimlo鈥檔 gyffrous iawn wrth fod yn rhan o ddatblygiad y project.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2012