Perfformiad o Chongqing yn hybu cysylltiadau Cymru-Tsieina
Er mwyn meithrin cysylltiad Cymru 芒 Chongqing yn ne-orllewin Tsieina, fe wnaeth Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊 ddod 芒 Chwmni Perfformio Chongqing i Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn gynharach yr wythnos hon (1 Tachwedd), lle buont yn cyfareddu'r gynulleidfa gyda pherfformiad syfrdanol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd.
Teithiodd deuddeg ar hugain o Gwmni Perfformio Chongqing yn unswydd i Ogledd Cymru ar gyfer y sioe, a daeth dros 140 o bobl i'w gweld ar noson wlyb o Dachwedd. Yn ogystal 芒 chlywed perfformiadau hudolus o gerddoriaeth Tsieineaidd ar y guqin a'r erhu, mwynhaodd y gynulleidfa ddawnsiau gwerin, yn cynnwys perfformiad prin o'r Opera Sichuan enwog lle newidir wynebau. Drwy gydol y prynhawn cafwyd arddangosiadau crefft o dynnu lluniau gyda surop a gwneud pobl fach o does, ac fe wnaeth arddangosfa o gelf Tsieineaidd hefyd gryn argraff ar yr ymwelwyr.
Sefydlwyd Cwmni Perfformio Chongqing yn 2011 ac mae wedi ennill sawl gwobr a pherfformio ledled y byd, gan ddod 芒 thraddodiadau Chongqing i Ewrop, yr Unol Daleithiau, Affrica a Japan, gyda'u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth, dawns ac acrobateg.
Meddai Mike Gould, Cyfarwyddwr Canolfan Ucheldre:
"Mae wedi bod yn bleser pur i gynnal y digwyddiad rhyfeddol hwn, sydd wedi dod 芒 chymaint o bobl o'r gymuned leol at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth a diwylliant. Mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a Chongqing yn parhau i dyfu ac rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at yr agwedd honno ar ddatblygu rhanbarthol mewn partneriaeth 芒'r Sefydliad Confucius.鈥
鈥淓fallai y bydd y perfformiadau yn ysbrydoli rhai o'r gynulleidfa i ymuno yn y dosbarthiadau Mandarin newydd y byddwn ni'n eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd. Yna, os bydd perfformwyr talentog Chongquing yn dychwelyd i Gaergybi, gobeithio y byddwn yn gallu eu cyfarch nhw'n iawn!"
Mae'r perfformiad yn Ucheldre'n adeiladu ar y berthynas agos sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru a bwrdeisdref Chongqing. Fe'i sefydlwyd i ddechrau yn 2008 mewn cytundeb partneriaeth a lofnodwyd gan y diweddar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Cafodd cytundeb pellach i gadarnhau'r berthynas ei lofnodi'n ddiweddarach gan y Prif Weinidog Carwyn Jones pan ymwelodd 芒 Chongqing fis Hydref 2011 ac, yn fwy diweddar, bu dirprwyaeth fasnach o Gymru ar ymweliad 芒'r rhanbarth yn Chwefror eleni dan arweiniad Ken Skates AC, Ysgrifennydd dros yr Economi ac Isadeiledd.
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad Confucius i'w gweld yma. Bydd gwybodaeth am ddosbarthiadau Mandarin newydd Ucheldre'n cael eu cyhoeddi'n fuan. Ewch i am y wybodaeth
ddiweddaraf.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017