Pobl ifanc yn mwynhau profiad prifysgol
Mae aelodau clybiau ieuenctid o bob cwr o ogledd orllewin Cymru wedi bod yn dysgu mwy am addysg uwch yn ystod y misoedd diwethaf.
Aelodau ifanc Clwb Ieuenctid Talysarn wedi iddynt fwynhau sesiwn blasu ar wal ddringo鈥檙 Brifysgol yn ddiweddar.Mae nifer o glybiau ieuenctid yng Ngwynedd ac Ynys M么n wedi cymryd rhan mewn menter newydd gan y brifysgol i roi cyfle i hyd yn oed mwy o bobl ifanc gael golwg ar fywyd prifysgol. Mae'r bobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed wedi cymryd rhan mewn sesiynau gweithdy gyda'r nod o gynyddu dyheadau a chodi ymwybyddiaeth o addysg uwch.
Bu'r grwpiau hefyd yn ymweld 芒'r Brifysgol i brofi bywyd myfyrwyr trwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar Safle'r Ffriddoedd. Ymhlith y gweithgareddau eraill oedd ymweld 芒'r Amgueddfa Hanes Naturiol a'r Ysgol Seicoleg. Trwy gydol y project roedd myfyrwyr presennol 黑料不打烊 wrth law i helpu gyda'r gweithgareddau, yn sicrhau bod gan aelodau'r clybiau ieuenctid ddigon o gyfleoedd i ofyn iddynt am eu profiadau a dysgu mwy am y Brifysgol.
Un o'r clybiau ieuenctid a fu'n cymryd rhan oedd Clwb Ieuenctid Talysarn yn Nyffryn Nantlle, ac roedd arweinydd y clwb ieuenctid, Nick Thomas, yn canmol y project.
鈥淢ae wedi bod yn gyfle gwych i'r bobl ifanc sylweddoli beth y gallant ei gyflawni ac maent wedi dysgu llawer am beth yw addysg uwch mewn gwirionedd," meddai Nick. "Maent hefyd wedi cael llawer o hwyl yn cael blas ar fywyd myfyrwyr!"
"Mae'r bobl ifanc wedi mwynhau'r sesiynau'n fawr iawn, yn arbennig ymweld 芒'r Brifysgol ei hun a chyfarfod 芒 rhai o'r myfyrwyr yma," meddai'r Cynorthwy-ydd Ehangu Mynediad, Anna Macdonald, aelod o d卯m Cyfathrebu a Marchnata'r Brifysgol. "Mae llawer o'r bobl ifanc yn awr wedi penderfynu yr hoffent fynd i鈥檙 brifysgol yn y dyfodol, sy'n rhywbeth nad oedd rhai ohonynt wedi ei ystyried o'r blaen."
Yn nol Carys Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata), dim ond un esiampl o weithgareddau ehangu mynediad y Brifysgol yw鈥檙 project clybiau ieuenctid.
鈥淩ydym hefyd yn cynnig cyrsiau adolygu TGAU, gweithdai gwyddonol, Ysgol Haf ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 a rhaglen codi dyheadau sy鈥檔 cynnwys dros 1,700 o ddisgyblion ysgol ar draws gogledd Cymru,鈥 meddai Carys, gan ychwanegu 鈥淢ae hybu addysg uwch a鈥檙 cyfleoedd sy ar gael i bobl ifanc yn rhan hollbwysig o waith Prifysgol 黑料不打烊.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2014