Polisi Cymdeithasol yn y 10 uchaf yn y DU
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei gosod yn 8fed yn y DU - ac yn orau yng Nghymru - am Bolisi Cymdeithasol yn 么l y .
Mae'r tablau wedi'u seilio ar gyfanswm sg么r sy'n ystyried safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion. Yn y sgorau unigol, gosodwyd Ysgol Gwyddorau Cymdeithas 黑料不打烊 yn gydradd 10fed am ansawdd ymchwil ym maes Polisi Cymdeithasol, ac yn gydradd 4ydd am ragolygon graddedigion.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn parhau i gael canlyniadau eithriadol am foddhad myfyrwyr, gyda'r sefydliad wedi鈥檌 osod yn 10 uchaf y DU - ac yn gyntaf yng Nghymru - yn y categori hwn.
"Mae'n galonogol gweld ehangder ein darpariaeth Polisi Cymdeithasol yn cael ei gydnabod ar draws sawl categori", meddai'r Athro Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. "Mae ein modiwl Polisi Tai wedi cael ei achredu gan y Sefydliad Tai Siartredig ac mae ein darpariaeth Polisi Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg yn unigryw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y gydnabyddiaeth hon o'n cryfderau presennol a pharhau i ddenu myfyrwyr a staff rhagorol."
Mae Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, wedi arwain Polisi Cymdeithasol cyfrwng Saesneg ers 2015. Dywedodd: "Mae'n wych gweld y lefel uchel o gefnogaeth gan ein myfyrwyr. Mae ein hathrawon ac ymchwilwyr ymroddedig a brwdfrydig yn gwerthfawrogi hynny'n fawr". Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies, Uwch Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol: 鈥淩ydym yn hynod o falch o'n darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae鈥檔 adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu ein haddysgu o gwmpas anghenion ein myfyrwyr鈥.
Mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig rhaglenni israddedig, Meistr ac ymchwil ym maes Polisi Cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017