Pontio a Chwmni Theatr Invertigo yn sefydlu perthynas tair mlynedd newydd a chyffrous
Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyhoeddi Invertigo (鈥榗wmni ifanc cyffrous鈥 -The Stage) yn Gwmni Cysylltiol am y tair blynedd nesaf, ac mae鈥檙 ddau sefydliad yn edrych ymlaen at gynnig theatr ddynamig newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cam cyntaf y siwrne hon oedd cyfnod o ysgrifennu ac ymarfer My Body Welsh yn Stiwdio Pontio, gan orffen gyda digwyddiad 鈥楪waith ar y gweill鈥 yn Pontio. Gan archwilio sut mae syniadau o genedlaetholdeb yn cael eu creu drwy rannu straeon neu ffuglen gyfrannol, mae My Body Welsh yn cwestiynu mewn modd chwareus sut mae chwedlau鈥檔 cael eu creu yn lleol, gyda Cymru a鈥檙 hyn mae鈥檔 ei olygu i fod yn Gymraeg yn ganolbwynt. Mae鈥檙 cyd-gynhyrchiad yma rhwng Invertigo a The Conker Group hefyd yn archwilio defnydd arloesol o sain, gan ddefnyddio deunydd clywedol wedi ei recordio鈥檔 fyw a鈥檌 chwarae yn 么l, gan feithrin synnwyr o gymuned adrodd stori yn eistedd o gwmpas y t芒n. Bwriad Invertigo yw teithio sioe un-dyn yma yn ystod Gwanwyn 2017.
Bu i bedwar cyd-sefydlwyr Invertigo gwrdd tra鈥檔 astudio yn y Guildhall School of Music and Drama, ac mae Steffan Donnelly a Si么n Alun Davies o鈥檙 cwmni yn dod o Gymru, Steffan o Lanfairpwll a Si么n o Gaerdydd. Mae Invertigo wedi cael llwyddiant a gwobrau am eu gwaith hyd yma, gan gynnwys tair enwebiad ar gyfer Y T诺r yng Ngwobrau Theatr Cymru.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, 鈥淢ae鈥檔 bleser gen i gyhoeddi y bydd Invertigo yn Gwmni Cysylltiol i ni am y tair blynedd nesaf. Mae ffurfioli ein perthynas yn ein galluogi i gynllunio syniadau a phrojectau鈥檔 fwy strategol, dros gyfnod hirach o amser. Mae鈥檔 gyffrous iawn gweithio gyda chwmni mor arloesol sydd a鈥檜 gwreiddiau yng Nghymru.鈥
Ychwanegodd Steffan Donnelly, cyd-gyfarwyddwr artistig Invertigo, 鈥淣od Invertigo yw gwthio ffiniau sut y mae theatr yn medru edrych a theimlo gan arbrofi gyda ffurf a chynnwys. Mae cael y rhyddid i ddatblygu hyn gydag adnoddau a chefnogaeth canolfan newydd anhygoel fel Pontio yn wefr. Fel plentyn breuddwydiais am wneud theatr yn ac ar gyfer fy ardal enedigol, felly mae dod yn gwmni cysylltiol yn Pontio yn foment fawr i mi. Rydy yn edrych ymlaen yn arw at greu gwaith gyda Pontio sy鈥檔 cyffroi, yn adfywio ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd lleol.鈥
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a chyfrannwyr i Brifysgol 黑料不打烊.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2016