Pontio i benodi Cyfarwyddwr Artistig
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wrthi鈥檔 chwilio am Gyfarwyddwr Artistig i Ganolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn gallu siarad Cymraeg, yn arwain y celfyddydau perfformio yng nghanolfan Pontio trwy greu rhaglenni amrywiol i ystod eang o gynulleidfaoedd a bydd hefyd yn arwain y gwaith o feithrin cyfleoedd busnes newydd.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y swydd hon cyn y dyddiad cau ar 2 Rhagfyr 2011.
Amcan Pontio yw dod 芒鈥檙 celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a鈥檙 diwydiannau creadigol ynghyd ac ysgogi adfywiad economaidd yn y rhanbarth. Mae swydd y Cyfarwyddwr Artistig yn ganolog i ddatblygiad tymor hir Pontio.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G. Hughes:
鈥淏ydd y cyfarwyddwr artistig yn gyfrifol am arwain y celfyddydau perfformio yng nghanolfan Pontio, gan feithrin cynulleidfaoedd newydd a datblygu rhaglenni newydd.
鈥淯n elfen bwysig o waith y Cyfarwyddwr Artistig fydd datblygu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, yn cynnwys comisiynu a chynhyrchu gwaith newydd yn y Gymraeg, er mwyn i ganolfan Pontio ysgogi arloesi a thwf yn y celfyddydau Cymraeg.
鈥淢ae gan broject Pontio eisoes raglen ragorol o theatr, dawns, cerddoriaeth, celf gyhoeddus a digwyddiadau allymestyn sy鈥檔 prysur gynyddu. Mae鈥檔 amser cyffrous iawn i ymuno 芒鈥檙 t卯m.鈥
Ceir rhagor o wybodaeth:
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2011