Porth Coffa ar agor ar gyfer Wythnos y Cofio
(Chwith- dde:) Cyng. Bryn Hughes, Ysgri Lleng Brydeinig Frenhinol a Dirprwy Faer 黑料不打烊; Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, George Evans, Ivor Evans, Cadeirydd a Banerwr y Gangen; John D Williams a Bill Speddy, o Gangen 黑料不打烊 Lleng Brydeinig FrenhinolBydd y Porth Coffa ar Ffordd Deiniol, 黑料不打烊 ar agor i鈥檙 cyhoedd ar hyd Wythnos y Cofio, rhwng Llun 7 a Sul 13 Tachwedd. Mae鈥檙 Porth Coffa yn coffau鈥檙 holl Luoedd Arfog a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn yn dilyn llwyddiant cydweithio a fu rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Lleng Brydeinig Frenhinol a alluogodd agor y Porth Coffa i鈥檙 cyhoedd bob dydd Sadwrn dros yr haf.
Mae鈥檙 aelodau lleol y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi gwirfoddoli i oruchwylio鈥檙 adeilad, fel y gall y cyhoedd ymweld 芒鈥檙 Porth Coffa rhwng 10.00-4.00 yn ystod Wythnos y Cofio.
Ar waliau mewnol llawr cyntaf y Porth Coffa, mae enwau dros 8,500 o filwyr, morwyr a g诺yr yr awyrlu o siroedd gogledd Cymru a aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi鈥檜 cofnodi ar baneli derw, yn 么l trefn plwyfi gogledd Cymru. Codwyd y Porth Coffa trwy roddion ac fe鈥檌 cwblhawyd yn 1923.
鈥淢ae鈥檙 Porth Coffa鈥檔 deyrnged deimladwy i鈥檙 rhai hynny o bob rhan o ogledd Cymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel yr ydym yn nes谩u at ganmlwyddiant dechrau鈥檙 Rhyfel, rydym yn falch o gydweithio efo鈥檙 Brifysgol i alluogi pobol ledled y rhanbarth i ddod i weld yr adeilad coffa drostynt eu hunain,鈥 meddai鈥檙 Cyng. Bryn Hughes. Ysgrifennydd Cangen 黑料不打烊 a鈥檙 Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol a Dirprwy Faer Dinas 黑料不打烊.
鈥淩ydym wrth ein bodd yn cydweithio 芒鈥檙 Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae鈥檔 iawn fod pobol leol yn medru mynd i mewn i鈥檙 Porth Coffa ac mae鈥檙 bartneriaeth hon yn esiampl wych o鈥檙 perthynas yr hoffai鈥檙 Brifysgol ei chael gyda chymunedau a grwpiau diddordeb arbennig o fewn y rhanbarth ehangach,鈥 meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is Ganghellor 芒 chyfrifoldeb dros Weithgarwch Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2011