Premiere drama ar gyfer radio i Fyfyrwyr 黑料不打烊
Ar nos Sul 30 Hydref bydd Gorsaf Radio Myfyrwyr 黑料不打烊, Storm FM, yn darlledu perfformiad cyntaf o鈥檙 ddrama radio Pontypool. Addaswyd y ddrama gan aelodau o Gymdeithas Drama Saesneg 黑料不打烊 (BEDS) o鈥檙 nofel Pontypool Changes Everything gan Tony Burgess, nofel arswyd wedi鈥檌 lleoli yn Ontario, Canada y gwnaed ffilm ohoni鈥檔 ddiweddar.
Mae鈥檙 ddrama鈥檔 cymryd golwg feddylgar ar iaith a sut y byddwn yn ei defnyddio, gyda phwyslais arbennig ar amlieithrwydd. Mae鈥檔 stori am firws hynod o heintus sy鈥檔 lledaenu drwy dref Pont-y-p诺l, ac yn effeithio ar y rheiny sy鈥檔 ei ddal mewn ffordd ysgytwol. Mae鈥檙 goroeswyr, criw gorsaf radio lleol, yn sylweddoli鈥檔 fuan fod rhywbeth yn cysylltu lledaeniad y firws 芒鈥檙 iaith y maent yn ei siarad, gyda phobl ddwyieithog yn ennill y blaen yn y sefyllfa dywyll, llawn tyndra sy鈥檔 codi.
Penderfynodd y myfyrwyr roi dimensiwn Cymreig i鈥檙 stori am eu bod yn byw ym Mangor ac wedi profi sut beth yw byw mewn cymuned ddwyieithog. Maent yn gobeithio y bydd y ddrama鈥檔 helpu myfyrwyr newydd o du hwnt i Glawdd Offa ymgynefino 芒 byw mewn ardal Gymraeg ac yn eu helpu i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
"Mae鈥檔 gyfle gwych i allu trosglwyddo鈥檙 lleoliad i Gymru,鈥 dywedodd Daniel Short, Is-Lywydd BEDS ac aelod o gast y ddrama. "Mae鈥檔 gyfle i edrych ar frwydr yr iaith Gymraeg o鈥檙 tu allan o bersbectif unigryw; gobeithio bydd pawb sy鈥檔 gwrando arno yn gallu gwerthfawrogi dwy ochr y ddadl ynghylch dwyieithrwydd.鈥
Ychwanegodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned): 鈥淢ae hon yn fenter ragorol ar ran myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 ac yn ddatblygiad rydym yn ei groesawu yng ngweithgareddau鈥檙 Gymdeithas Drama Saesneg. Nid yn unig mae鈥檔 arwydd o鈥檜 parodrwydd i fynd i鈥檙 afael 芒 phwnc dwyieithrwydd, ond mae hefyd yn gyfle gwych iddynt ddarlledu eu cynhyrchiad. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at fentrau tebyg yn y dyfodol.鈥
Caiff Pontypool ei ddarlledu am 9pm ar nos Sul 30 Hydref ar Storm FM, sydd ar 87.7FM ac ar y we ar a dyma鈥檙 cyntaf o amryw o brosiectau radio gan BEDS eleni.
Mae Storm FM yn darlledu 24 awr y diwrnod saith diwrnod yr wythnos, yn bennaf i鈥檙 safle llety FforddFfriddoedd. Mae鈥檔 darlledu yn Gymraeg a saesneg gan adlewyrchu natur ddwyieithog cymuned myfyrwyr y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2011