Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru'n rhoi darlith gyhoeddus ym Mangor
Daeth Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, i Fangor i drafod 'Plismona - Heddiw ac ar gyfer Yfory'. Mewn darlith gyda nifer dda o fyfyrwyr a staff o bob rhan o'r brifysgol yn bresennol ynddi, fe wnaeth y Prif Gwnstabl amlinellu newidiadau diweddar yn y ffordd y llywodraethir yr heddlu, eu blaenoriaethau a'r gofynion sydd arnynt, yn ogystal 芒'r sialensiau sy'n wynebu Heddlu Gogledd Cymru yn y dyfodol.
Tynnodd Mr Polin sylw at y newid pwyslais oddi wrth blismona wedi'i seilio ar gyrraedd targedau at blismona sy'n gyfiawn o ran ei ddulliau gweithredu ac a gyflawnir gyda chydsyniad y cyhoedd. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar fregusrwydd llawer y mae'r heddlu'n dod i gysylltiad 芒 hwy a chymhlethdod cynyddol llawer o'r troseddau y mae Heddlu Gogledd Cymru'n delio 芒 hwy. Mae angen adnoddau sylweddol a datblygu sgiliau penodol i ymdrin 芒 materion fel terfysgaeth, troseddu trefnedig difrifol, ecsploetio plant yn rhywiol, troseddau seibr a masnachu pobl.Yr Athro Sian Hope, Uchel Siryf Gwynedd, Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, a鈥檙 Athro Martina Feilzer, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Tynnodd y Prif Gwnstabl sylw at y ffaith bod y gwasanaeth yn cael ei ymestyn fwyfwy o ganlyniad i doriadau a phwysau ar yr heddlu yn ogystal ag ar wasanaethau cyhoeddus eraill. Gorffennodd ei ddarlith drwy alw ar bartneriaid academaidd, yn cynnwys Prifysgol 黑料不打烊, i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu cynyddol amrywiol ac i gydweithio i gynhyrchu'r dystiolaeth i wella dulliau plismona.
Trefnwyd y ddarlith gyhoeddus hon gan Yr Athro Si芒n Hope, ar derfyn ei chyfnod fel Uchel Siryf Gwynedd, ac roedd yn berthnasol i lawer o bynciau ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ond yn arbennig felly i fyfyrwyr y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Meddai'r Athro Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas: "Da yw deall bod sgiliau ein myfyrwyr, yn arbennig myfyrwyr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, yn berthnasol i blismona cyfoes a bod y Prif Gwnstabl yn awyddus i gydweithio gyda'r brifysgol i wella plismona wedi'i seilio ar dystiolaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2018