Prif Weinidog yn lansio Canolfan newydd Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru
Carwyn Jones, Y Prif Weinidog yn lansio Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth CymruBu'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, yn lansio Canolfan newydd Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ddechrau cyfarfod blynyddol Llys Prifysgol 黑料不打烊 heddiw (14 Ionawr 2011).
Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol 黑料不打烊. Bu i'r cyfarfod ymuno drwy gyswllt fideo byw 芒 thros 150 o staff, myfyrwyr a mentoriaid ysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu cyswllt fideo byw hefyd 芒 stiwdio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yng Nghaerdydd.
Mae Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cael ei rheoli ar y cyd gan Brifysgolion 黑料不打烊 ac Aberystwyth ac mae鈥檔 un o dair canolfan genedlaethol. Yn weithredol er 2010, mae鈥檙 Ganolfan yn hyfforddi athrawon Cynradd ac Uwchradd ac yn gweithio gydag ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Mae'r cydweithio hwn yn digwydd yng nghyd-destun partneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgolion 黑料不打烊 ac Aberystwyth ym maes Ymchwil a Menter.
Meddai鈥檙 Prif Weinidog, Carwyn Jones: 鈥淢ae lansio鈥檙 ganolfan newydd yma yn ddechrau鈥檙 hyn fydd yn bartneriaeth lwyddiannus, rwy鈥檔 sicr, rhwng Prifysgolion 黑料不打烊 ac Aberystwyth i ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr i athrawon ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Rwy鈥檔 si诺r y bydd y Ganolfan Addysg Athrawon newydd hon yn enghraifft ragorol arall o鈥檙 trefniadau cydweithio a welir rhwng adrannau prifysgol yng Nghymru. Rwy鈥檔 dymuno pob llwyddiant i鈥檙 Ganolfan, a鈥檌 staff, yn y dyfodol.鈥
Meddai鈥檙 Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae staff yn y ddau sefydliad wedi gweithio鈥檔 eithriadol galed i wneud hyn yn llwyddiant gan nodi a rhannu ymarfer da. Mae鈥檙 ailgyflunio wedi arwain at fwy o ddefnydd o dechnoleg newydd gan gynnwys cyfarpar fideo-gynadledda sydd wedi鈥檌 osod mewn ystafelloedd dysgu mawr yn y ddwy Brifysgol. Mae hyn yn ein galluogi i rannu adnoddau ac arbenigaeth yn well.
Datblygwyd partneriaethau gyda dros 100 o ysgolion uwchradd a chyda dros 350 o ysgolion cynradd. Mae ysgolion bellach yn gweithio gydag un Ganolfan yn hytrach na chyda dwy brifysgol, gan gael gwared ar ddyblygu a dryswch oherwydd systemau a dogfennau gwahanol.鈥
Dyma oedd gan Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, i鈥檞 ddweud: 鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn o weld lansio鈥檙 Ganolfan newydd yma. Mae鈥檔 dyst i gydweithio rhagorol rhwng y ddwy brifysgol ac mae鈥檔 rhan o bartneriaeth ehangach sy鈥檔 parhau i ddatblygu ac ehangu. Rwy鈥檔 sylweddoli hefyd y gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud i sicrhau effeithiolrwydd y ddarpariaeth 鈥 mae鈥檔 enghraifft dda iawn o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio.鈥
鈥淢ae鈥檙 rhwydwaith eang o bartneriaethau gydag ysgolion ar draws canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig o werthfawr ac o fudd i鈥檙 ardaloedd yma.鈥
Mae creu tair Canolfan Addysg Athrawon yng Nghymru yn ganlyniad polisi'r Llywodraeth sydd wedi annog ail-gyflunio ar draws y sector prifysgolion ac yn ymateb i ostyngiad sylweddol yn y lleoedd hyfforddi athrawon sydd ar gael.
Mae myfyrwyr ym Mangor yn astudio cyrsiau ar lefel gynradd, y cwrs BA tair blynedd mewn Addysg Gynradd (Statws Athro Cymwysedig) a'r cwrs blwyddyn Tystysgrif 脭l-radd mewn Addysg Gynradd. Mae 黑料不打烊 ac Aberystwyth yn cynnig rhaglenni TAR Uwchradd mewn gwyddoniaeth a Chymraeg.
Mae Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant i'r sector Uwchradd mewn Saesneg a Drama, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh ac Ieithoedd Modern.
Mae 黑料不打烊 hefyd yn cynnig cyrsiau TAR Uwchradd mewn Celf, Mathemateg, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Addysg Awyr Agored ac Addysg Grefyddol. Hefyd mae 黑料不打烊 yn parhau i gynnig y cwrs BSc Uwchradd (SAC) mewn Dylunio a Thechnoleg. Mae鈥檙 holl gyrsiau a gynigir yn y ddau sefydliad yn dal i fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2011