Prifysgol 黑料不打烊 a Chamre Cymru yn cyd-weithio i wneud gwahaniaeth
Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol 黑料不打烊 yn gweithio gyda i wneud yn si诺r fod pobl ifanc yn cael y gorau allan o'u teithiau.
Mae Samantha McElligott, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Llandegfan, Ynys M么n, yn gweithio gyda o dan raglen tair blynedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i fesur manteision alldeithiau tramor fel profiad datblygiadol cadarnhaol i bobl ifanc.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y project ymchwil mae dros 800 o 15-19 oed wedi cymryd rhan dra ar alldeithiau haf gyda , un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw o deithiau ar gyfer pobl ifanc yn y DU. Mae'r adborth ganddynt yna yn cael ei ddefnyddio i archwilio effaith ymddygiadau arweinyddiaeth ar agweddau megis hunan-barch y cyfranogwyr, gwaith t卯m a chyfathrebu.
Mae'r canlyniadau hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn dangos bod teithiau yn cael effaith gadarnhaol ar yr hunan-barch, sgiliau arwain, lefelau o gyfrifoldeb, gwaith t卯m a sgiliau cyfathrebu.
Dywedodd Samantha, a oedd yn gweithio fel hyfforddwr awyr agored yn y gorffennol: "Mae wedi ei brofi fod arweinwyr ar hyn o bryd yn dangos lefelau uchel o ymddygiad trawsnewidiol wrth arwain. Mae hwn yn ddull ymddygiadol sydd wedi profoi i ysbrydoli a gwella canlyniadau dysgu mewn meysydd fel busnes a'r maes milwrol o鈥檙 blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ymchwilio o fewn y maes teithiau awyr agored."
Ychwanegodd: "Ni allwn fod yn fwy brwdfrydig am y gwaith ymchwil - mae'n bwysig iawn gwneud y gorau wrth ddysgu pobl ifanc ar deithiau gan ei fod yn brofiad mor unigryw. Bydd y cam nesaf yn edrych yn fanylach ar ymddygiadau arweinyddiaeth a sut y gallwn hyfforddi arweinwyr i wneud y gorau o'r canlyniadau."
Mae Samantha eisoes wedi bod i Tsieina a Mongolia yn arwain taith ac yn edrych ymlaen at arwain gr诺p arall ym Molivia diwedd mis Gorffennaf. Ychwanegodd: "Rwyf wedi bod eisiau gwneud PhD sy'n gysylltiedig 芒 datblygu a hyfforddi ac rwyf yn frwdfrydig iawn am arwain alldeithiau yn yr awyr agored, felly pan welais hysbyseb ar gyfer hyn doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc - PhD yn fy maes i ac ar fy stepen drws!
"Mae gweithio o fewn y maes dysgu datblygu ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn rhoi cymaint o foddhad i mi, ac mae gallu gwneud hynny mewn amgylchedd mor gadarnhaol ac unigryw yn wych. Mae fy mhroject yn dangos sut y gall ymchwil effeithio ar y byd go iawn a byswn yn bachu ar y cyfle i鈥檞 ddatblygu ymhellach pan ddaw fy nhair blynedd i ben!
"Mae'n fraint cael gweithio efo ac efo'r bobl ifanc ac rwyf wedi dysgu cymaint. Mae鈥檙 holl brofiad yn rhoi cymaint o foddhad i mi a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y ffordd - gan gynnwys staff Camre Cymru, athrawon, disgyblion a rhieni "
Dywedodd Matt Wells, Prif Weithredwr : "Rydym wedi gwybod eisoes fod y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn ein teithiau yn magu hyder ac yn datblygu ystod eang o fedrau allweddol, gan gynnwys, gwaith t卯m arwain, trefnu a chyfathrebu - oherwydd ein bod wedi ei weld yn digwydd.
鈥淵r hyn yr ydym am ei anelu i wneud yw ymchwilio hyn ymhellach, a dyna鈥檙 rheswm dros gomisiynu ymchwil academaidd Samantha drwy Brifysgol 黑料不打烊 i edrych ar y ffordd y mae pobl ifanc yn elwa o鈥檙 teithiau ac i sicrhau bod arweinwyr yn cael cymaint o effaith ar y datblygiad hwn ag y bo modd. Mae gallu academaidd, brwdfrydedd personol Samantha, yn ogystal 芒鈥檌 phrofiad fel arweinydd, yn ei gwneud yn berson delfrydol i gynnal yr ymchwil ar ran ac mae hi yn ased i deulu estynedig y cwmni.鈥
Mae'r ymchwil gyda Phrifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei gynnal o dan raglen (Gwybodaeth Ysgoloriaethau Economi Sgiliau). Nod yw darparu cymorth y diwydiannau sy'n seiliedig ar wybodaeth hangen i'w galluogi i dyfu. Mae'r rhaglen yn darparu mynediad i arbenigedd mewn prifysgolion tra hefyd yn darparu hyfforddiant ymchwil ac addysg 么l-radd mewn maes arbenigol i fyfyriwr, sydd wedyn yn cael sgiliau a gwybodaeth werthfawr.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012