Prifysgol 黑料不打烊 a Waitrose yn ymestyn allan i becynnu gwyrdd
Quentin Clark, Pennaeth Cynaladwyedd, Waitrose; Derek Davies, Adare; Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol 黑料不打烊; Dr Adam Charlton, Canolfan Biogyfansoddion, Prifysgol 黑料不打烊. Roedd project cydweithredol a arweiniwyd gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol 黑料不打烊, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth a Waitrose, yn cael ei arddangos yn Waitrose Porthaethwy yn ddiweddar.
Mae'r project STARS, a gyllidir gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cynllun Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes, wedi bod yn troi gwair yn amrywiaeth o gynnyrch, yn cynnwys pecynnu pydradwy ar gyfer cynnyrch archfarchnadoedd a biodanwyddau ar gyfer cludiant, ar y cyd ag Waitrose a sawl partner diwydiannol. Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi canolbwyntio ar gynhyrchu pecynnu bwyd o ffibr gwair, tra bo Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar droi sudd gwair yn fiodanwyddau.
Y syniad y tu 么l i'r pecynnu gwair yw y gall ffrwythau a llysiau sy'n cael eu gwerthu mewn deunyddiau a wneir o'r ffibr deunydd hwn, fynd i'r un bin compost 芒'r gwastraff bwyd ei hun. Mae hyn yn rhoi dewis arall cyfeillgar i'r amgylchedd yn lle'r tunelli o blastig yr ydym yn ei ddefnyddio heddiw, gan leihau faint o sbwriel sy'n cael ei gladdu, ac yn ei dro, lleihau'r effaith amgylcheddol ar ein planed.
Cynhaliodd y siop Waitrose arddangosfa o'r amrywiaeth o gynnyrch a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r cydweithio hwn, ac roedd y gr诺p yn gofyn am farn y cyhoedd yn ystod y dydd er mwyn bwydo'n 么l i'w hymchwil a'u datblygiad.
Dafydd Roberts, technegydd ymchwil, Canolfan Biogyfansoddion; Derek Davies, Adare; Quentin Clark, Waitrose; Nick Laflin, Canolfan Biogyfansoddion, Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor; Samantha Williams, Llywodraeth Cymru; Dr Adam CharltonMae'r holl becynnu a arddangosir yn cael ei wneud ar Ynys M么n yng nghyfleuster Ymchwil a Datblygu Prifysgol 黑料不打烊 ym Mona, felly mae'r cynnyrch nid yn unig yn garedig i'r amgylchedd, nid yw chwaith wedi teithio milltiroedd i gyrraedd yno. Mae'r gr诺p wedi bod yn falch o weithio gyda chwmn茂au a chynhyrchwyr lleol i greu cynnyrch gwirioneddol Gymreig. Bydd partneriaid y project yn ymweld 芒'r siop i edrych ar yr arddangosfa am 2pm ar y diwrnod:
Daeth Yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 i'r digwyddiad, ynghyd 芒 Quentin Clark, sef Pennaeth Cynaliadwyedd a Chanfod Moesegol Waitrose, a Derek Davies o Adare, un o bartneriaid y project a gyflenwodd yr offer a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r pecynnu.
Dywedodd Quentin Clark o Waitrose: "Mae Waitrose wedi bod yn falch iawn o鈥檙 cyfle i ymwneud 芒'r gwaith hwn am sawl rheswm. Yn amlwg, mae'r cyfle i archwilio鈥檙 ffyrdd newydd o greu deunyddiau mwy cynaliadwy, megis deunydd pacio, yn atyniad ynddo鈥檌 hun, ond mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i arddangos ymdriniaeth fwy agored sy鈥檔 dangos sut y gall academia a busnes cydweithio. Roedd y nail a鈥檙 llall yn cyfrannu eu gwybodaeth arbennigol, er mwyn helpu i gyflwyno gwyddoniaeth real ac ymarferol i'r farchnad"
Meddai鈥檙 Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淢ae gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mangor hanes cryf o weithio ar y cyd 芒 chwmn茂au yng Nghymru er mwyn masnacheiddio cynhyrchion cynaliadwy. Mae 黑料不打烊 yn falch o fod yn rhan o'r project cyffrous hwn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld y cydweithio'n datblygu fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i Gymru a busnesau lleol.鈥
Nick Laflin, Prif Dechnegydd ar y project a鈥檌 wraig, Rosemarie, sydd yn bartner yn Waitrose.Dywedodd Derek Davies o Adare: "Mae Adare wedi cael gwybodaeth werthfawr o鈥檙 project hwn, o agweddau technegol defnyddio gwellt fel bwyd i anifeiliaid a deunydd pecynnu ffibr, i'r rhyngweithio gyda chwsmeriaid.
Un gogwydd diddorol arall i'r project hwn yw bod gwraig Nick Laflin, y Prif Dechnegydd ar gyfer y project, yn bartner yn Waitrose!
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014