Prifysgol 黑料不打烊 ac Ymddiriedolaeth P锚l-droed Cymru鈥檔 dod ynghyd i greu rhagor o gyfleoedd i chwarae
O鈥檙 chwith: Philippe Roo Bantsi Mongapndam, Swyddog Chwaraeon Campws, Prifysgol 黑料不打烊 gyda Rob Franklin, Uwch Reolwr Partneriaeth i'r Ymddiriedolaeth B锚l DroedDiolch i gefnogaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a Chwaraeon Cymru, mae Prifysgol 黑料不打烊 ac Ymddiriedolaeth P锚l-droed Cymru yn lansio menter newydd gyffrous.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei dewis fel un o bedair Prifysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn y cynllun peilot arloesol hwn i ddefnyddio Ysgogwyr P锚l-droed yn y sefydliad.
Nod o'r fenter hon yw cael rhagor o fyfyrwyr y Brifysgol i chwarae p锚l-droed, yn enwedig menywod. Bydd defnyddio fformatau anhraddodiadol o'r g锚m yn allweddol er mwyn cael pobl i 'wirioni ar y g锚m'. Bydd y pwyslais ar yr elfen hamdden, gan gynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr chwarae ni waeth beth fo'u hoed, eu rhyw neu eu gallu.
Mae'r ysgogwyr wedi cael y gwaith o gael o leiaf 100 o fenywod a 100 o ddynion newydd i gymryd rhan. I helpu i gyflawni hyn bydd rhaglen gweithlu gwirfoddol hefyd yn cael ei chreu. Y nod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiadau gwerthfawr tra ydym hefyd yn gwella eu cyflogadwyedd drwy wirfoddoli o fewn y teulu p锚l-droed sy'n cynnwys nid yn unig darpariaeth y Brifysgol ond hefyd o fewn y gymuned leol.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Mhrifysgol 黑料不打烊: "Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 gymryd rhan mewn hyfforddi o fewn y Brifysgol a hefyd y gymuned leol. Mae gan y cynllun budd-daliadau cyflogadwyedd wrth ennill cymwysterau."
Dywedodd Rob Franklin, Uwch Reolwr Partneriaeth i'r Ymddiriedolaeth B锚l Droed: "Mae'n beth cyffrous cael gweithio gyda Phrifysgol 黑料不打烊 ar y fenter arloesol yma. O ganlyniad i'r bartneriaeth yma, mi fydd gynnon ni fwy o fyfyrwyr yn chwarae p锚l droed a gweithlu i helpu i gynnal y ddarpariaeth".
Dywedodd Manon Rees-O鈥橞rien, Swyddog Cyswllt Addysg Uwch Chwaraeon Cymru: 鈥淢ae Chwaraeon Cymru yn falch o fod yn cefnogi'r cyfle cyffrous yma gyda Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, Prifysgol 黑料不打烊 ac Ymddiriedolaeth P锚l-droed Cymru. Mae'r fenter newydd yma i gyflwyno Ysgogwyr P锚l-droed yn y sefydliad yn cynnig cyfle go iawn i ni gael mwy o fyfyrwyr prifysgol yn chwarae p锚l-droed, yn enwedig merched a myfyrwyr sy'n newydd i'r g锚m. Mi fydd y cyfle lleol yma, gobeithio, yn batrwm i ni ei ddilyn i chwalu rhwystrau o ran cyfranogiad a dod 芒 mwy o bobl i mewn i'r gamp. Mae'r cynnig o ran y gweithlu yn elfen bwysig o'r fenter gyda'r nod o feithrin gweithlu chwaraeon lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
鈥淔el rhan o鈥檔 gwaith ar y cais hwn byddwn yn gweithio'n galed i ddod ag Addysg Uwch 芒 Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn nes at ei gilydd i greu perthnasau strategol cynaliadwy fel bod gan y rheiny sy'n dod trwy rengoedd addysg uwch fynediad at y math cywir o gefnogaeth i'w galluogi nhw i barhau i gymryd rhan yn y gamp, boed hynny wrth chwarae, dyfarnu, hyfforddi neu wirfoddoli."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016