Prifysgol 黑料不打烊 ar 8 rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2018
Mae Prifysgol 黑料不打烊 ar y rhestr fer ar gyfer wyth o鈥檙 deuddeg gwobr yng ngwobrau Student Choice 2018. Mae'r enwebiadau yn seiliedig ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae鈥檙 Brifysgol yn dal gwobr 2017 am y Clybiau a Chymdeithasau gorau ac eleni mae wedi ei henwebu ar gyfer y gwobrau canlynol:
Llety
Clybiau a Chymdeithasau
Cyrsiau a Darlithwyr
Rhoi'n 脭l
Rhyngwladol
Rhagolygon Swyddi
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Prifysgol y Flwyddyn
Mae Whatuni Student Rankings yn seiliedig ar gyfartaleddau a gymerir o ddegau ar filoedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr ac a gyhoeddir ar Whatuni.com.
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
"Rwy'n falch iawn bod ein myfyrwyr unwaith eto eleni wedi dangos eu cefnogaeth a gwerthfawrogiad o鈥檙 addysg a鈥檙 profiad a gynigir ym Mangor. Mae hyn yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf a phrofiad prifysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr."
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr):
"Rydyn ni'n falch iawn o'r berthynas sydd gennym gyda鈥檙 myfyrwyr ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth 芒 hwy i sicrhau bod eu hamser ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddifyr a buddiol. Mae'n wych gweld bod y gwaith caled a wneir ar draws y Brifysgol ac yn Undeb y Myfyrwyr yn cael ei gydnabod unwaith eto.鈥
Yn ogystal ag ennill gwobr y llynedd, daeth y Brifysgol yn drydydd yn y DU am Gyrsiau a Darlithoedd, trydydd yn y DU yn y categori Rhoi鈥檔 脭l, ac yn drydydd yn y categori cyffredinol Prifysgol y Flwyddyn.
Dywedodd Eleni Cashell, Golygydd Whatuni, "Mae cael enwebiad ar gyfer gwobr yn gamp aruthrol, oherwydd yr unig feirniaid ar gyfer WUSCA yw鈥檙 myfyrwyr eu hunain. Mae鈥檙 gwobrau yn dangos i ddarpar fyfyrwyr a'r sector addysg uwch bod eich sefydliad yn cynnig gwerth am arian, yn rhoi profiad da i fyfyrwyr a bod y gymuned myfyrwyr yn fodlon iawn ac yn cael eu cefnogi鈥檔 dda.鈥
Dywedodd Jonah Duffin, Prif Swyddog Marchnata Gr诺p Hotcourses, sef rhiant gwmni Whatuni.com, "Does dim ffordd gwell o ddangos gwerth sefydliad i ddarpar fyfyrwyr na chlywed y myfyrwyr presennol yn canmol pa mor wych yw eu profiad prifysgol. Mae鈥檙 enwebiad hwn yn arf marchnata amhrisiadwy."
Cyhoeddir canlyniadau gwobrau Whatuni Student Rankings 2018 yn swyddogol ar 19 Ebrill mewn seremoni yn Llundain. Gellwch ddilyn holl hynt a helynt y noson gyda'r hashnod #WUSCA.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2018