Prifysgol 黑料不打烊 ar wyth rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2019

Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi ei henwebu ar gyfer wyth o 15 Gwobr eleni yn y 2019. Mae'r enwebiadau wedi eu seilio ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol eu hunain.
Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn dal y wobr am y Prifysgol gorau ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau a鈥檙 wobr am y Llety Myfyrwyr gorau. Fe鈥檌 enwebwyd yn y gwobrau eleni ar gyfer:
Prifysgol y Flwyddyn
Llety
Clybiau a Chymdeithasau
Rhyngwladol
脭濒-谤补诲诲
Rhagolygon Swyddi
Rhoi鈥檔 脭l
Cefnogaeth Myfyrwyr
Mae Whatuni Student Rankings wedi eu seilio ar gyfartaleddau a gymerir o ddegau ar filoedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr ac a gyhoeddir ar Whatuni.com.
Croesawodd yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
Mae鈥檙 ffaith fod Prifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn wyth enwebiad ar gyfer gwobrau WhatUni, yn seiliedig ar farn ein myfyrwyr, yn gydnabyddiaeth o鈥檔 hymdrechion i ddarparu myfyrwyr 芒 phrofiad llawn yma. Mae鈥檔 myfyrwyr ni wrth wraidd ein holl weithgareddau a thestun llawenydd i mi yw鈥檙 ffaith fod yr enwebiadau hyn yn perthyn i ystod lawn eu profiad yma; o鈥檔 darpariaeth a chefnogaeth academaidd i鈥檔 llety a鈥檙 gweithgareddau hamdden ar gael gan clybiau a chymdeithasau gwych Undeb y Myfyrwyr.鈥
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr)
"Rydyn yn falch iawn bod ein myfyrwyr wedi rhoi鈥檙 fath gymeradwyaeth i鈥檙 Brifysgol, sydd wedi arwain at yr enwebiadau hyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr a鈥檔 myfyrwyr er mwyn sicrhau bod eu cyfnod ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn un difyr a buddiol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych o鈥檙 gwaith caled a wneir ar draws y Brifysgol ac yn Undeb y Myfyrwyr.鈥
Yn ogystal 芒 dod a dwy wobr adref y llynedd, daeth y Brifysgol yn ail yn y categori Cyrsiau a Darlithwyr ac yn drydydd yn y categori cyffredinol Prifysgol y Flwyddyn.
Yn 么l Katie Duncan, Pennaeth Cyfathrebu IDP Connect, sydd yn trefnu鈥檙 gwobrau:
"Mewn amseroedd heriol ar gyfer sefydliadau addysg uwch, does dim gwell na chael eich cydnabod gan eich myfyrwyr am ddarparu profiad positif. Mae鈥檙 adolygiadau gan fyfyrwyr cyfredol, sydd yn cyfrannu at yr enwebiadau, hefyd yn amhrisiadwy i鈥檙 darpar fyfyrwyr hynny sy鈥檔 gwneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.鈥
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings swyddogol 2019 mewn seremoni sydd i鈥檞 chynnal yn Llundain Ebrill 25. Gellwch ddilyn yr holl hynt a helynt ar y noson gyda'r hashnod #WUSCA.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2019