Prifysgol 黑料不打烊 yn arwain prifysgolion Cymru o ran boddhad myfyrwyr
Prifysgol 黑料不打烊 yw'r gorau yng Nghymru, yn 么l y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, ac mae yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau.
Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol 黑料不打烊, mewn ymateb i'r canlyniadau:
"Mae gan Brifysgol 黑料不打烊 draddodiad sy鈥檔 ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, a chaiff hyn ei gadarnhau gan y canlyniadau gwych hyn. Rydym yn arbennig o falch bod yr arolwg yn ein gosod mor amlwg ar y brig yng Nghymru. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi鈥檌 adlewyrchu yn y canlyniadau hyn鈥.
Yn ogystal 芒 bod ar frig y tabl cyffredinol yng Nghymru, roedd y myfyrwyr wedi rhoi'r sg么r uchaf i Fangor ym mron pob un o'r is-gategor茂au hollbwysig fel ansawdd yr addysgu ar y cyrsiau, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd a threfniadaeth a rheolaeth y cyrsiau.
Ychwanegodd: "Dylai'r data roi gwybodaeth werthfawr i ddarpar fyfyrwyr a'n hysbrydoli i wneud hyd yn oed yn well yn ystod y flwyddyn i ddod".
Erbyn hyn mae Prifysgol 黑料不打烊 yn gydradd seithfed ymhlith prifysgol anarbenigol y DU. Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yw mai 黑料不打烊 yw'r trydydd ymhlith y prifysgolion hyn yn y DU o ran boddhad gyda chefnogaeth academaidd, gyda sg么r dda am allu myfyrwyr i gysylltu 芒 staff pan roeddent angen gwneud hynny (5ed yn y DU), ac am degwch o ran trefniadau asesu a marcio (7fed).
Meddai'r Athro Turnbull:
"Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhad arbennig o'n gweithgareddau a'n gwerthoedd. Wrth gymharu ein prifysgol gyda phrifysgolion eraill sy'n dysgu ystod eang o bynciau addysg uwch, mae'n wych ein bod yn y 10 uchaf yn y DU, ac o ran boddhad cyffredinol rydym yn awr ar yr un lefel 芒 phrifysgolion traddodiadol eraill fel Glasgow, Durham ac yn wir Rhydychen a Chaergrawnt hefyd. Mae鈥檔 safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu'r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2014