Prifysgol 黑料不打烊 yn croesawu Central College
Marc Putnam, Llywydd Central College (chwith) gyda'r Athro John G Hughes, Is-ganghellor.Croesawodd Prifysgol 黑料不打烊 ddirprwyaeth o Central College, Iowa ym mis Mawrth. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i weld cyfleusterau鈥檙 Brifysgol, cyfarfod 芒 staff ac ail-lofnodi cytundeb partneriaeth.
Mae Central College yn bartner astudio dramor i鈥檙 Brifysgol ers cryn amser. Mae'r Coleg yn ddarparwr astudio dramor i fyfyrwyr israddedig o golegau a phrifysgolion ledled yr Unol Daleithiau. Mae'r Coleg yn cynnig rhaglenni mewn wyth lleoliad ledled y byd lle gall myfyrwyr ddewis astudio am gyfnod o semester, haf neu flwyddyn. Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn un o'r lleoliadau unigryw yma.
Dywedodd Tecwyn Jones, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Central College, sydd wedi鈥檌 leoli ym Mangor:
"Mae Central College wedi ymwneud 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 ers 37 mlynedd. Mae dros 225 o fyfyrwyr wedi mynd drwy'r rhaglen astudio dramor ers i'r swyddfa ranbarthol gael ei sefydlu ym Mangor yn 2005. Eleni, roedd yna 63 o fyfyrwyr ar y rhaglen, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn ail-lofnodi鈥檙 cytundeb partneriaeth."
Meddai Marc Putnam, Llywydd Central College, ar 么l iddo gwrdd 芒 myfyrwyr o Central College sy鈥檔 astudio ym Mangor:
"Mae myfyrwyr yn hoff iawn o Fangor, maent wedi dod o hyd i ail gartref yng Nghymru. Mae hyn yn ddealladwy gan fod 黑料不打烊 yn teimlo fel cartref, er ein bod wedi bod yma ond am gyfnod byr. Ni all yr un coleg neu brifysgol fod yn hunangynhaliol. Cydweithio a phartneriaeth yw'r ffordd ymlaen, felly rwyf yn ail-lofnodi ein cytundeb partneriaeth gydag uchelgais fawr. "
Staff Prifysgol 黑料不打烊 a Central College, Iowa.Bydd y cytundeb newydd gyda Central College yn awr yn galluogi myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i gael profiad o astudio dramor yn Iowa, yn ogystal 芒 myfyrwyr o Central College yn parhau i ddod i Fangor i astudio.
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
"Drwy ein strategaeth ryngwladoli rydym am i'n myfyrwyr fwynhau profiadau diwylliannol amrywiol. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn weithio i鈥檞 gyflawni trwy ein cydweithrediad 芒 Central College. "
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012