Prifysgol 黑料不打烊 yn croesawu dirprwyaeth o Tsieina
Y ddirprwyaeth o TsieinaPrifysgol 黑料不打烊 oedd y lleoliad ar gyfer taith astudiaeth o Weinidogaeth Addysg Tsieina a nifer o gynrychiolwyr o brifysgolion Tsieina. Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus i ddysgu sut y mae prifysgolion Prydain yn cyfrannu at ddatblygu鈥檙 economi yn eu rhanbarth.
Croesawyd y ddirprwyaeth i Fangor gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, ac yna, buont yn treulio鈥檙 diwrnod yn astudio mentrau gwahanol sydd gan y brifysgol i hybu entrepreneuriaeth ac adfywio yn y rhanbarth. Buont hefyd yn gwrando ar safbwynt Llywodraeth Cymru am y dylanwad gall brifysgolion ei gael ar eu heconom茂au rhanbarthol.
Y Ddirprwyaeth yn gwrando ar anerchiad yr Is-Ganghellor鈥淩oeddem yn falch o gael y cyfle i groesawu gwesteion mor amlwg i Fangor ac i ddangos sut yr ydym yn cydweithio efo asiantaethau eraill i gefnogi busnes yn y rhanbarth,鈥 meddai鈥檙 Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes.
Yn ei gyflwyniad agoriadol, pwysleisiodd yr Athro John G. Hughes bwysigrwydd y cysylltiadau gwych sydd gan y Brifysgol efo鈥檙 awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys ei hymwneud efo Parc Ynni M么n, a鈥檌 hymrwymiad i dyfu busnesau bychain, asgwrn cefn yr economi leol, drwy gynlluniau sy鈥檔 galluogi busnesau bychain i gael mynediad at arbenigedd yn y Brifysgol i鈥檞 helpu i dyfu eu busnes.
Yn ogystal 芒 chlywed gan staff Prifysgol 黑料不打烊 am sawl gweithgaredd sy鈥檔 cefnogi busnes a menter yn y rhanbarth, clywodd y ddirprwyaeth hefyd gan nifer o gyrff eraill gan gynnwys:
Mr Dafydd Hughes, Pennaeth dros dro sector Ynni ac Amgylchedd, Menter a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru; Ms Teresa Cooper, Rheolwraig Datblygu Economaidd Uwch, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a siaradodd am effaith addysg uwch ar econom茂au lleol; yr Athro Ding Xuemei, Is-Lywydd Sefydliad Technoleg Harnbin a siaradodd am bolis茂au a systemau sefydliadau addysg uwch er mwyn ymwneud 芒 datblygiad rhanbarthol yn seiliedig ar drefniadau presennol; Mr Ewen Brierley, Rheolwr Datblygu Strategol Uwch, HEFCW a drafododd gydweithrediadau strategol ymysg sefydliadau addysg uwch a phellach efo anghenion rhanbarthol. Defnyddiodd Mr Robert O鈥橠owd, Prif Weithredwr Pontio ym Mhrifysgol 黑料不打烊, y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi fel enghraifft o鈥檙 cydweithio rhwng y llywodraeth, cyrff cyllido, y brifysgol a鈥檙 gymuned leol. Trafododd Dr Gary Reid, Pennaeth Partneriaeth Ymchwil a Menter Aber-黑料不打烊, fuddiannau partneriaethau ar gyfer y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2011