Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn cydweithio â'r Ellen MacArthur Foundation
Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, drwy law ei Chanolfan BioGyfansoddion, wedi cael ei derbyn yn ‘brifysgol rhwydwaith’ gan yr Ellen MacArthur Foundation, elusen sy’n hyrwyddo cysyniad yr ‘economi gylchog’.
Wedi ei sefydlu yn 2010 gan yr hwylwraig adnabyddus, mae’r Ellen MacArthur Foundation yn ystyried ein economi ddiwydiannol bresennol fel un sy’n gweithredu yn ôl model cynhyrchu sy’n seiliedig ar ‘gymryd, creu a chael gwared’. Mae ‘economi gylchog’ yn wahanol gan nad yw’n cynhyrchu gwastraff na llygredd ac mae adnoddau yn cael eu cadw’n weithredol am y cyfnod hiraf posib er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf ohonynt. Yna, ar ddiwedd oes unrhyw adnodd, gellir ail-greu adnoddau a deunyddiau newydd â’r hyn sydd ar ôl. Nod yr elusen yw gosod y cysyniad mewn lle canolog yng ngweithredoedd bydoedd busnes, llywodraeth ac academia.
Yn ogystal â bod â pharterniaid rhyngwladol megis Google, Nike ac Unilever, mae’r elusen hefyd â rhwydwaith ryngwladol o brifysgolion. Drwy arddangos gwaith academaidd perthnasol ar lwyfan byd, mae’r elusen yn ceisio sicrhau cydweithio a chyfnewid gwybodaeth ymhlith lluniwyr polisi, byd busnes ac academia y tu allan i’w rhaglenni ffurfiol. Gan ymuno â chriw dethol o brifysgolion eraill, bydd Canolfan BioGyfansoddion Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn rhannu rhywfaint o’i arbenigeddau arloesol ym maes datrysiadau busnes gyda’r Ellen MacArthur Foundation, gan atgyfnerthu enw da’r Brifysgol yn rhyngwladol ym maes .
Meddai Dr Adam Charlton, Pennaeth y Ganolfan BioGyfansoddion:
‘Bydd cael cydweithio â’r elusen adnabyddus hon yn gyfle gwych i Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac yn gyfle pellach i’r Ganolfan BioGyfansoddion arddangos ei arbenigeddau wrth gyfweithio â diwydiannau ym meysydd lleihau gwastraff, cynnyrch bio megis deunydd pacio bwyd a defnydd o dechnolegau carbon-isel.’
Ceir mwy o wybodaeth am yr Ellen MacArthur Foundation .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016