Prifysgol 黑料不打烊 yn cyhoeddi enwau鈥檙 unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyhoeddi enwau鈥檙 unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremon茂au graddio鈥檙 Brifysgol eleni.
惭补别鈥檙 Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd 芒 chysylltiad 芒鈥檙 Brifysgol neu 芒 Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i鈥檞 meysydd penodol.
Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio鈥檙 Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae ein Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn adlewyrchu ystod eang diddordebau鈥檙 Brifysgol. 惭补别鈥檙 Brifysgol yn aelod gweithgar o鈥檙 gymuned leol ac rydym yn anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i Gymru. Mae ein graddedigion yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr mewn nifer o feysydd gyrfa - a hynny yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn ymfalch茂o yn eu llwyddiannau, ac yn ymfalch茂o hefyd yn y cyfle i wobrwyo rhai o鈥檔 graddedigion nodedig am eu cyfraniadau hwythau.鈥
Yr unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd eleni yw:
Ann Catrin Evans, cerflunydd a gwneuthurwr gemwaith o ogledd Cymru sydd wedi derbyn clod rhyngwladol am ei gwaith ac un sydd wedi bod ymhlith y crefftwyr mwyaf blaengar yng Nghymru ers 25 o flynyddoedd. Bydd Ann Catrin Evans yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Gelfyddyd.
惭补别鈥檙 Parch Ddr Alwyn Roberts, cyn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, wedi bod yn ymwneud 芒 bywyd y sefydliad ers dros hanner canrif fel myfyriwr, aelod o staff ac aelod o Gyngor y Brifysgol. Bydd yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i鈥檙 Brifysgol.
Ag yntau鈥檔 un o raddedigion y Brifysgol, yn beiriannydd ac yn entrepreneur, bydd Howard M Clarke, Cadeirydd cwmni Morgan Innovation & Technology, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Beirianneg Electronig.
惭补别鈥檙 delynores enwog ac uchel ei pharch, Llio Rhydderch, yn cael ei chydnabod fel un o brif arbenigwyr a pherfformwyr y delyn deires. Bydd yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Gerddoriaeth.
Yn ddiweddar fe benodwyd yr Arglwydd David Lloyd-Jones, Barnwr ac ysgolhaig uchel ei barch ym maes y gyfraith, yn Ustus y Llys Goruchaf. Mae wedi dangos ei gefnogaeth ymarferol yn gyson i fyfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i鈥檙 Gyfraith.
Mae Dr Philip Trathan, Pennaeth Cadwraeth gyda鈥檙 British Antarctic Survey yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Gadwraeth. Mae ganddo dair gradd gan y Brifysgol wedi iddo raddio gyda gradd BSc mewn Botaneg yn 1979 ac ennill Doethuriaeth mewn Ecoleg Poblogaeth Planhigion yn 1983. Derbyniodd DSc yn 2012 am ei gyfraniad nodedig i Wyddor yr Antarctig.
惭补别鈥檙 Athro Julie Williams yn ffigwr blaenllaw ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer鈥檚 ac, yn ddiweddar, bu鈥檔 Brif Swyddog Gwyddoniaeth Cymru. Bydd yn cael ei hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i wyddoniaeth.
惭补别鈥檙 Athro Robin Grove-White, academydd a Chadeirydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru y Brifysgol yn derbyn anrhydedd am ei wasanaethau i鈥檙 gymuned. 惭补别鈥檙 Athro Grove-White yn amgylcheddwr ymrwymedig, sy鈥檔 hynod weithgar yn y maes.
Mae Stavros Ioannou, yn raddedig o Brifysgol 黑料不打烊 ac sydd yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol Eurobank wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol tu hwnt i sector bancio Gwlad Groeg drwy swyddogaethau rheolaethol yn y prif sefydliadau cyllidol. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Fancio.
Yr academydd, Dr Margaret Wood, yw cyd-awdur y gyfrol llawn gyntaf ar ddaeareg Ynys M么n. Mae wedi dangos angerdd neilltuol i鈥檞 phroffesiwn ac i ymestyn maes gwyddor daearegol. Mae鈥檔 cael ei gwobrwyo gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i ddaeareg.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018