Prifysgol 黑料不打烊 yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cynnal Cymru
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Cynnal Cymru 2016. Bydd gwobrau 2016 yn dod 芒 dros 150 o arweinwyr busnes, arloeswyr, arloeswyr cymunedol, addysgwyr a鈥檜 timau at ei gilydd, ac maent yn agored i unrhyw fusnes, sefydliad neu unigolyn a all ddangos effaith ac ymagwedd gadarnhaol at ddatblygu cynaliadwy yn eu busnes neu gymuned.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Gwobrau dechreuol a lansiwyd yn 2015, bydd y beirniaid yn chwilio am enghreifftiau eithriadol o unigolion a sefydliadau sy鈥檔 helpu i gyflawni saith nod cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol, gan gyfrannu at gynaliadwyedd bywyd amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
Mae Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol, wrth ei bodd eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd:
鈥淢ae ychydig dros flwyddyn ers i鈥檙 Lab Cynaliadwyedd gael ei sefydlu fel canolbwynt corfforaethol ar gyfer cynaliadwyedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn gweithredu fel canolbwynt a chatalydd i ddod 芒 chynaliadwyedd i fyw ym mhob agwedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud drwy ein gwaith ymchwil, dysgu ac addysgu, ac ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd. Mae鈥檔 ddyddiau cymharol gynnar ar ein taith tuag at ddod yn Brifysgol Gynaliadwy felly roeddwn wrth fy modd i ddarganfod ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol.鈥
Caiff pob un o鈥檙 naw enillydd eu datgan yn ystod y Seremoni Wobrwyo ar 17 Tachwedd yng Nghaerdydd.
Pleidleisiwch i helpu Prifysgol 黑料不打烊 i ennill y categori 鈥淪efydliad Cynaliadwy AU/AB鈥
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016