Prifysgol 黑料不打烊 yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod Wythnos Graddio 2016
Bydd rhai graddedigion ffodus yn clywed y gantores opera enwog yn canu yn ystod un o鈥檙 10 Seremoni Graddio sydd i鈥檞 gynnal ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yr wythnos nesaf, wrth i鈥檙 seren opera enwog, Elin Manahan-Thomas dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod eu seremoni.
Mae鈥檙 ddynes sydd yn y swydd uchaf yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, cerflunydd o fri, cyflwynwraig teledu ac actor hefyd ymysg yr unigolion eraill a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremon茂au Graddio鈥檙 Brifysgol (11-15 Gorffennaf 2016). Byddant yn ymuno 芒 dros 3,000 o fyfyrwyr yn Neuadd Prichard-Jones ysblennydd y Brifysgol.
Bydd yr Uwchfrigadydd Susan Ridge, Prif Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Fyddin, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i鈥檙 Gyfraith. Hi yw鈥檙 ddynes 芒鈥檙 swydd amlycaf yn Lluoedd Arfog Gwledydd Prydain. Graddiodd Susan Ridge o Brifysgol 黑料不打烊 yn 1984 gyda gradd mewn Hanes.
Bydd Rhian Huws-Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i waith Cymdeithasol yn ystod yr un Seremoni. Mae gan Rhian dros 30 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers iddi ennill ei gradd gyntaf a鈥檌 chymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Bydd Ruth Hussey CB OBE, a oedd tan ei hymddeoliad diweddar yn Brif Swyddog Meddygol/ Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, hefyd yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Wyddorau Meddygol.
Bydd Glyn Watkin Jones o鈥檙 cwmni datblygu ac adeiladu lleol, Watkin Jones & Son Ltd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i ddiwydiant. Mae gwreiddiau Cwmni Watkin Jones yn mynd yn 么l i 1791 ac roeddynt yn gyfrifol am osod carreg sylfaen Prifysgol 黑料不打烊 yn 1907. Tan yn ddiweddar roedd y cwmni ym mherchnogaeth y teulu ac yn cael ei reoli ganddynt, a Glyn oedd y Cadeirydd mwyaf diweddar, hyd at lansio鈥檙 cwmni ar y Farchnad Buddsoddiadau Amgen fis Mawrth eleni.
Yn ymuno ag ef yn yr un seremoni fydd Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain, Ei Archdderchowgrwydd M. Rasheed Mohammed Al Maraj, sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol am wasanaeth i fyd Bancio. Mae Ei Ardderchowgrwydd Al Maraj wedi bod yn Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain ers mis Ionawr 2005. Fel Llywodraethwr, mae gan EA Al Maraj statws gweinidog yn y llywodraeth ac ef yw prif weithredwr y Banc, sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau sefydlogrwydd ariannol a chyllidol Bahrain. Y Banc hefyd yw unig reolydd y diwydiant gwasanaethau ariannol yn y wlad. Mae EA Al Maraj hefyd yn aelod o fwrdd Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain, sefydliad y mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cyfrannu ato fel partner dysgu.
Bydd y cerflunydd, John Meirion Morris, sydd wedi hen sefydlu ers blynyddoedd lawer fel un o gerflunwyr pwysicaf ac uchaf ei barch Cymru hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i鈥檙 celfyddydau. Arwydd o鈥檌 statws yw bod cyfanswm o un ar ddeg o鈥檌 benddelwau o enwogion yn perthyn i gasgliad celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymhlith y rhai mwyaf cyfarwydd yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊 mae ei benddelw o鈥檙 Athro Emeritws Gwyn Thomas, ei benddelw o鈥檙 diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones sydd i鈥檞 weld ym mynedfa Neuadd Pritchard Jones, ac yn fwy diweddar ei benddelw o Bob Owen, Croesor a arddangosir yn Llyfrgell Shankland y Brifysgol.
Bydd Yr Athro Merfyn Jones, CBE, cyn Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i鈥檙 Brifysgol. Hanesydd sy鈥檔 arbenigo yn hanes modern a chyfoes Cymru yw鈥檙 Athro Merfyn Jones, ac mae wedi gwneud sawl rhaglen ddogfen deledu. Ymunodd 芒 Phrifysgol Cymru, 黑料不打烊 yn 1990 fel uwch ddarlithydd mewn hanes. Daeth yn bennaeth yr Ysgol Hanes Cymru yn 1993 a鈥檌 benodi鈥檔 Athro Hanes Cymru yn 1994. Gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas am ddwy flynedd cyn ei benodi鈥檔 Ddirprwy Is-ganghellor yn 1998. Fe鈥檌 penodwyd yn chweched Is-ganghellor y Brifysgol ar 1 Awst 2004.
Bydd Elin Manahan-Thomas, cantores soprano a ystyrir yn soprano gorau ei chenhedlaeth gwledydd Prydain yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth. Hefyd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd fydd y tad a鈥檙 ferch J.O. Roberts a Nia Roberts. Bydd y darlledwr Nia, sydd yn gyflwynwraig gyfarwydd iawn ar S4C, yn derbyn Cymrodoriaeth am ei chyfraniad i faes darlledu a鈥檌 thad, J.O. Roberts am wasanaeth i fyd y ddrama. Bu鈥檔 actor adnabyddus ar lwyfan a sgrin fel amatur ac yna fel actor proffesiynol ar 么l iddo ymddeol yn gynnar o鈥檙 Coleg Normal.
Bydd Yr Athro John Porter, gwyddonydd adnabyddus yn rhyngwladol a barat么dd ran bwysig o adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y newid yn yr Hinsawdd (IPCC AR5 Food Security and Food Production Systems) yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i wyddoniaeth. Graddiodd John Porter, sydd yn Athro ym Mhrifysgolion Copenhagen a Greenwich, o Fangor yn 1976 ac enillodd ei Ddoethuriaeth yn 1981.
Athro arall sydd a enillodd ei radd ddoethuriaeth o Fangor yw鈥檙 Athro John Wingfield o Brifysgol Califfornia. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i Wyddoniaeth. Mae鈥檙 Athro Wingfield yn endocrinolegydd amgylcheddol ac mae鈥檔 ffigwr dylanwadol iawn ym maes cyllido ymchwil yn yr Unol Daleithiau.
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:
鈥淩ydym yn ymfalch茂o yn llwyddiannau ein holl raddedigion, ac yn eu dathlu, yn enwedig y rhai hynny sydd yn graddio eleni. Mae cynnal seremon茂au graddio hefyd yn gyfle i ni ymfalch茂o yn llwyddiant eraill o鈥檔 cymuned neu i anrhydeddu y rhai hynny sydd 芒 pherthynas agos 芒鈥檙 Brifysgol. Mae eu llwyddiant yn gosod esiampl wych i鈥檔 myfyrwyr o鈥檙 hyn a ellir ei gyflawni.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016