Prifysgol 黑料不打烊 yn dyfarnu ei chylch cyntaf o Gymrodoriaethau鈥檙 Academi Addysg Uwch
Llongyfarchiadau i鈥檙 chwe aelod o staff academaidd 黑料不打烊 sydd wedi ennill Cymrodoriaethau鈥檙 Academi Addysg Uwch yn y cylch cyntaf o geisiadau i Gynllun Aberystwyth-黑料不打烊 i Gydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu.
Cyfarfu鈥檙 Panel Achredu, dan gadeiryddiaeth yr Athro Oliver Turnbull, ddydd Gwener 20 Chwefror, a dyfarnu Cymrodoriaeth ac Uwch Gymrodoriaeth, yn 么l eu trefn, i:
Dr Frances Garrad-Cole, Ysgol Seicoleg 鈥 Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Yr Athro Morag McDonald, Ysgol Gwyddorau Biolegol 鈥 Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Mrs Peggy Murphy, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd 鈥 Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Si芒n Lewis, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru 鈥 Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Dr Geraldine Crahay, Ysgol Ieithoedd Modern 鈥 Cymrodoriaeth (FHEA)
Dr Christie Margrave, Ysgol Ieithoedd Modern 鈥 Cymrodoriaeth (FHEA)
Meddai鈥檙 Athro Turnbull: 鈥淒yma uchafbwynt llawer iawn o weithgaredd 鈥 ein cynllun ni yw鈥檙 unig Gynllun Cydnabod DPP yn y DU i鈥檞 gynnal ar y cyd gan ddau sefydliad. Gwych o beth yw gweld y cylch cyntaf o staff yn derbyn cymrodoriaethau, a鈥檜 ffurflenni cais fel pe baent yn nodi dilyniant o waith addysgu arloesol hynod o lwyddiannus. Rwy鈥檔 si诺r y gwelwn lawer mwy o gyflwyniadau yn y cylchoedd i ddod 鈥 a chyda hynny ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth gynyddol o鈥檙 gwaith anhygoel sy鈥檔 digwydd (yn aml heb i fawr o neb sylwi arno) ar draws ein sefydliad. Llongyfarchiadau i鈥檙 rhai o鈥檙 cylch hwn! Edrychaf ymlaen at weld llawer mwy yn y dyfodol.鈥
Meddai Sue Clayton, Pennaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus 鈥 Addysgu a Dysgu (CELT): 鈥淢ae鈥檔 bleser gen i fod y llwyddiannau cryf, cynnar hyn yn dod trwy ein cynllun, yn enwedig yr un sydd wedi dod trwy lwybr Cyfrwng Cymraeg. Mae鈥檙 Cynllun Cydnabod DPP wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb cadarnhaol ers ei lansiad ym Medi 2014. Mae cyfanswm o fwy na 70 o wedi mynd i鈥檙 sesiynau cynefino misol cychwynnol i鈥檙 cynllun, a disgwylir 50 yn rhagor erbyn diwedd y flwyddyn hon. Yn awr fod yr arloeswyr hyn gennym, gobeithio y caiff y rheiny sydd wrthi鈥檔 llunio eu ceisiadau anogaeth!鈥
Ar 13 Mai, cynhelir gweithdy ysgrifennu i鈥檙 rhai sydd wrthi鈥檔 llunio ceisiadau 鈥 mewn da bryd i gefnogi ceisiadau ar gyfer y cylch nesaf (dyddiad cau 鈥 dydd Gwener 5 Mehefin).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 celt@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015