Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur ym Maldwyn
Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ am fod yn weithgar yn ystod yr eto eleni, efo digwyddiadau ar y stondin drwy’r wythnos.
Y
Adeiladu ffordd yn Cwm Hyfryd c1888. Yn y canol Llwyd ap Iwan mab i Michael D Jones a lofruddiwyd gan 'fandits' ym 1909. : Archifau a Chasgliadau Arbennigmysg uchafbwyntiau dydd Llun bydd ‘Te bach’ i ddathlu 150 mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bydd adnoddau arbennig Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, sy’n olrhain hanes y Wladfa, gan gynnwys lluniau hynod John Murray Thomas o’r Cymry yn ystod blynyddoedd cynnar y Wladfa i’w gweld yn y ddigwyddiad agored am 2.30 Llun Awst 3.
‘Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau’ a fydd dan sylw mewn cyfarfod am 4.00 i ddathlu’r datblygiadau diweddaraf gan Uned Technolegau Iaith, a ddaw o dan adain Canolfan Bedwyr y Brifysgol.
‘Dyfodol Darlledu yng Nghymru’ fydd yn dwyn sylw Gwion Lewis, y bargyfreithiwr a chyflwynydd rhaglen Radio Cymru, ‘Cyflwr y Cyfryngau', wrth iddo draddodi darlith Cylchgrawn Barn ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ am 12.45 Ddydd Mawrth.
Dilynir hyn (am 3.00) gan drafodaeth arall, y tro hyn ar y ffordd orau i gynnal gofal yn ein cymunedau gwledig Cymraeg. Bydd y drafodaeth am y ffordd orau i ddarparu ar gyfer anghenion pob aelod o’n cymunedau yng nghanol llymder ariannol, a beth yw rôl cymuned yn hyn o beth, yn cynnwys cyfraniadau gan Shan Ashton, Pennaeth y Brifysgol a Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr cwrs y Brifysgol.
A hithau’n Flwyddyn Ryngwladol Goleuni 2015, gwahoddwyd Yr Athro K.Alan Shore o Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ i draddodi darlith Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd yr Athro Alan Shore, sydd yn Gymrodor o’r Gymdeithas yn trafod Grym Golau yn y ddarlith sydd yn digwydd ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 13.30 Mawrth 4 Awst.
Mae wedi dod yn draddodiad diweddar i rai o’r Brifysgolion cynnal aduniad ar Ddydd Mercher 5 a dyna yw’r drefn eleni eto. Caiff cyn fyfyrwyr Prifysgol
ºÚÁϲ»´òìÈ a’r Coleg Normal sydd ar y maes bigo draw i stondin y Brifysgol am 2.00 a chyfarfod a hen ffrindiau a chyn-fyfyrwyr i rannu atgofion am hwn a’r llall. Prynhawn Mercher a thrwy’r wythnos hefyd, bydd cynrychiolwyr yr yn casglu atgofion melys cyn-fyfyrwyr a staff fel ran o broject hanes llafar ‘Straeon ºÚÁϲ»´òìÈ’.
Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn darparu’r arlwy ddydd Iau ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, yn cychwyn am 11.00 gyda Dosbarth Canu Pop, lle bydd Gethin Griffiths ac Ifan Davies, sêr Cân i Gymru yn rhannu cyfrinachau canu a chyfansoddi pop. Am 12.00 bydd Sian James yn rhannu gwobrau Musica, sef gwobrau newydd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy’n astudio cerddoriaeth Lefel A.
Bydd y DJ Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens yn cadeirio drafodaeth ar y wasg gerddorol Gymraeg, gyda chyfraniadau gan unigolion sydd wedi cynnal y wasg gerddorol dros y 40 mlynedd diwethaf.
Celfyddydau a Dementia
Mae dementia’n cael sylw mewn dwy achlysur ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan adlewyrchu y Brifysgol yn y maes. Fore Llun am 11.00 bydd sylw i broject Dementia a’r Dychymyg, sydd wedi rhoi cyfle i pobol sydd a dementia sy’n byw yn Sir Ddinbych gymryd rhan mewn gweithdai celf. Bydd peth o’r gwaith yn cael eu harddangos ynghyd ag astudiaeth o effaith rhaglen celfyddydol wythnosol ar lles y rhai a fu’n cymryd rhan. Am 11.00 Ddydd Gwener bydd un o brojectau , sef Corneli Cudd, yn trafod y cyswllt rhwng cerddoriaeth a dementia, yn dilyn project gan Pontio a fu’n cynnig profiadau arbennig i bobol sydd yn byw gyda dementia, pobol ifanc a myfyrwyr, a sut fydd y gwaith yma yn ehangu wedi i’r Ganolfan agor ei drysau. Cyllidir Pontio trwy Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd Y Galw’n canu’n fyw ar y stondin am 1.30 ac yna Swnami yn canu’n fyw am 2.30.
Mae’n debyg y bydd cerddoriaeth i’w glywed yn codi o’r Pafiliwn Gwyddoniaeth hefyd ar brydiau yn ystod yr wythnos wrth i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, ynghyd â chwmni Techniquest, gynnal arbrofion sy’n profi’r cyswllt rhwng cerddoriaeth a’r byd gwyddonol.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2015