Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill Gwobr Brydeinig
Carol Tully (ail o鈥檙 chwith) Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol yn derbyn y Wobr Dewis Myfyrwyr Whatuni, gyda chynrychiolwyr Whatuni, Iga Kozakiewicz a Yanxia Han a'r g诺r gwadd, y digrifwr Hugh Dennis. Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn gwobr o bwys mewn digwyddiad yn Llundain yn ddiweddar, o ganlyniad i adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.
Derbyniodd y Brifysgol chwe enwebiad allan o naw categori yng Ngwobrau Dewis Myfyriwr Whatuni y DU, gan gynnwys un am Brifysgol y Flwyddyn. Llwyddodd i gipio鈥檙 Wobr ar gyfer y Clybiau a鈥檙 Cymdeithasau Gorau mewn unrhyw Brifysgol. Roedd staff yn y Brifysgol hefyd yn falch o ddod yn drydydd am Llety Myfyrwyr, yn bedwerydd yn y DU yn y categori cymorth i fyfyrwyr, ac yn seithfed yn y prif gategori am Brifysgol y Flwyddyn.
Daw鈥檙 llwyddiant diweddaraf fel cadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, y llety, y cyfleusterau a鈥檙 gefnogaeth i fyfyrwyr a roddir gan y Brifysgol. Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pan ddaeth y Brifysgol yn gyntaf yng Nghymru ac yn 7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr. Daeth yn un o鈥檙 100 Prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol, ac yn un o鈥檙 20 uchaf yn y DU o ran profiad myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
鈥淢ae鈥檔 bleser gen i fod y Brifysgol wedi ennill y Wobr hon, ac rydw i鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 holl fyfyrwyr am eu cymorth. Mae鈥檙 enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol a phrofiad cyffredinol, myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy鈥檔 falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff am eu hymdrechion gwych.鈥

Ychwanegodd Rhys Taylor, Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淩ydym yn hynod falch o鈥檙 bartneriaeth sydd rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yma ym Mangor. Mae鈥檙 buddsoddiad yr ydym wedi rhoi mewn i Glybiau a Chymdeithasau wedi ei gydnabod fel rhan o鈥檙 Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni. Yn 2010 buom yn arwain y ffordd wrth roi aelodaeth o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau y gall bawb gymryd rhan yn ein gweithgareddau a gwneud y gorau o fywyd prifysgol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr gan ddatblygu amrediad o sgiliau, a hefyd yn cynnal y myfyrwyr yn ystod eu haddysg drwy greu cymunedau a rhwydweithiau. Rydym yn diolch i鈥檙 myfyrwyr hynny sy鈥檔 cymryd rhan ac yn trefnu ein Clybiau a Chymdeithasau, sy鈥檔 sicrhau gwell profiad fyth i鈥檞 cyd-fyfyrwyr.鈥
Ar sail ymatebion gan fwy nag 20,000 o fyfyrwyr ar draws y DU, wrth iddynt nodi eu barn ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr 黑料不打烊 wedi ymateb mor gadarnhaol i鈥檞 profiad yn y Brifysgol fel bod 黑料不打烊 wedi cael ei henwebu am Wobrau yn y categor茂au canlynol:
- Prifysgol y Flwyddyn
- Llety
- Cyrsiau
- Clybiau a Chymdeithasau
- Cyfleusterau鈥檙 Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
Mae llwyddiannau diweddar eraill Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnwys cael ei gosod ar y brig yng Nghymru ac yn seithfed yn y DU mewn arolwg cenedlaethol o foddhad myfyrwyr, ar sail boddhad myfyrwyr gyda鈥檜 profiad yn y brifysgol. Fe鈥檌 gosodwyd ymysg y 50 prifysgol orau yn y DU yn 么l Good University Guide 2015 y Times a鈥檙 Sunday Times, ac fe鈥檌 gosodwyd ymysg 100 prifysgol orau鈥檙 byd am agwedd ryngwladol y Brifysgol. Mewn meysydd eraill, mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo gyda chanlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nododd fod mwy na thri chwarter ymchwil 黑料不打烊 naill ai 鈥済yda鈥檙 orau yn y byd鈥 neu鈥檔 鈥渞hagorol yn rhyngwladol鈥. Mae 黑料不打烊 hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Amgylcheddol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Ychwanegodd Simon Emmett, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whatuni.com: 鈥淚 ddarpar-fyfyrwyr, mae cael gwybod o lygad y ffynnon am ansawdd addysg a disgwyliadau realistig am fywyd mewn prifysgol yn adnodd amhrisiadwy wrth wneud penderfyniad ynghylch astudio ar gyfer gradd. Ein gobaith ni yw y bydd y tablau hyn, sy鈥檔 ganlyniad i farn myfyrwyr, yn cyfrannu at yr ymchwil a鈥檙 paratoi mae angen i bob myfyriwr ei wneud er mwyn dewis y brifysgol sy鈥檔 iawn iddo ef/ iddi hi.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015