Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill Safon Ryngwladol am Reolaeth Amgylcheddol
Yn dilyn archwiliad allanol trylwyr a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi llwyddo i ennill ardystiad ISO 14001:2004 am ei hymrwymiad wrth . ISO 14001 yw鈥檙 safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer sefydliadau sy鈥檔 mynd ati鈥檔 unswydd i reoli鈥檙 effeithiau a g芒nt ar yr amgylchedd trwy System ffurfiol ar gyfer Rheoli鈥檙 Amgylchedd (S.Rh.A.). Mae鈥檙 wobr hon yn adeiladu ar ein hardystiad Draig Werdd sydd gennym er 2009.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淢ae safonau鈥檙 Ddraig Werdd ac ISO14001, fel ei gilydd, yn gofyn am reolaeth systematig ar y gweithgareddau hynny a all gael effaith andwyol ar yr amgylchedd. Yn ein hachos ni, mae鈥檙 rhain yn cynnwys yr ynni a ddefnyddiwn, defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, trin a gwaredu gwastraff, a theithio ar gyfer busnes. Mae鈥檙 Ddraig Werdd yn safon reoli dra chredadwy o fewn Cymru, ac mae adeiladu ar hon gan ennill ardystiad ISO 14001 yn dangos yn glir i鈥檔 budd-ddeiliaid ar lefel fyd-eang fod ein Prifysgol wedi ymrwymo i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol.鈥
Meddai鈥檙 Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, 鈥淢ae hwn yn llwyddiant rhyfeddol wrth inni gyrraedd y nod tymor hir a bennwyd gennym pan gychwynasom ar ein S.Rh.A. yn 么l yn 2009. Rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau i adeiladu ar ein henw da rhyngwladol fel Prifysgol gynaliadwy, ac mae hon yn dystiolaeth ychwanegol ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol yn llwyr o ddigrif.鈥
Ym Mangor, rydym bob amser yn chwilio am syniadau am wella ein perfformiad amgylcheddol yn fwy fyth, a gellwch anfon unrhyw syniadau neu awgrymiadau a fo gennych i environment@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2014