Prifysgol 黑料不打烊 yn Gwobrwyo Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012
Mae Rebecca Earnshaw wedi鈥檌 henwi鈥檔 enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol 黑料不打烊, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi鈥檌 rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Rebecca (20) yn fyfyriwr Almaeneg ail-flwyddyn yn Ysgol Ieithoedd Modern. Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd Goleg Pursglove, Guisborough. Derbyniodd darian a gwerth 拢50 o docynnau siop Stryd Fawr fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol 黑料不打烊 yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae鈥檔 eu paru 芒 myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i鈥檞 galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath yn y wlad.
Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn helpu鈥檙 myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a鈥檙 Brifysgol. Gallant gyfeirio鈥檙 myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
鈥淢ae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a鈥檜 cyfraniad at fywyd Prifysgol 黑料不打烊 yn amhrisiadwy,鈥 meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr. 鈥淢ae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo鈥檙 myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i鈥檞 myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau鈥檔 parhau trwy鈥檙 Brifysgol,鈥 ychwanegodd.
Enwebwyd Rebecca am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y mae鈥檔 gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Maent wedi ei henwebu gan ei bod yn hawdd mynd ati ac yn barod i roi cyngor pryd bynnag y bo ei angen, ac mae hi bob amser ar gael ar gyfer y myfyrwyr, hyd yn oed ar un achlysur arbennig, yng nghanol y nos. Dywedodd un o鈥檌 henwebwyr y byddai, oni bai am Rebecca, wedi ei chael yn anodd iawn i wneud ffrindiau a bod Rebecca wedi gwneud ei f/blwyddyn gyntaf ym Mangor yn rhwydd ac yn hwyl.
A hithau鈥檔 hynod o falch o dderbyn y wobr, dywedodd Rebecca:
鈥淧enderfynais fynd yn arweinydd cyfoed gan fy mod wrth fy modd yn helpu pobl, ac yr oedd yn ffordd o roi rhywbeth yn 么l i鈥檙 Brifysgol. Roedd llawer wedi cael eu henwebu, pob un ohonynt wedi gwneud llawer o bethau da, felly mae鈥檔 wirioneddol anhygoel fy mod wedi ennill yr anrhydedd hwn. Rwyf wedi gwneud tri ffrind da, ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad agos dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae bod yn arweinydd cyfoed yn bleserus iawn ac yn werth chweil, byddwn yn canmol y gwaith wrth unrhyw un.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012