Prifysgol 黑料不打烊 yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio
Roedd y cerddor roc lleol Gruff Rhys a鈥檙 troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens, ill dau yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol 黑料不打烊 yn ystod Seremoni Raddio Ddydd Mercher 15 Gorffennaf.
Lowri Evans.
Maent ymysg nifer o unigolion dawnus sydd 芒 chysylltiad naill ai 芒鈥檙 Brifysgol neu 芒 Chymru, a cafod eu derbyn yn Gymrodyr er Anrhydedd yn ystod Seremon茂au Graddio鈥檙 Brifysgol.
Daeth Gruff Rhys i'r Brifysgol rhwng ymddangos mewn gwyliau cerddorol o Glastonbury i Japan gyda鈥檙 Super Furry Animals. Ac yntau鈥檔 ddiweddar wedi gorffen taith lwyddiannus gyda鈥檙 Super Furry Animals, mae Gruff Rhys hefyd wedi gweithio ar sawl project unigol gan gynnwys yn fwyaf diweddar, cyfansoddi sg么r ar gyfer y ffilm Set fire to the Stars, am ddyddiau olaf Dylan Thomas, ac American Interior, taith, ffilm a llyfr, lle bu Gruff yn dilyn taith bersonol yn 么l traed y Cymro, John Evans, o鈥檙 Waunfawr, a fu鈥檔 archwilio a mapio afon y Missouri wrth chwilio am y llwyth o 鈥業ndiaid鈥 brodorol a oedd yn siarad Cymraeg ac y cyfeirid atynt yn chwedlau Cymru. Mae ei lyfr, American Interior, wedi ei gynnwys ar restr fer categori Ffeithiol Greadigol Saesneg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2015, tra enillodd wobr Cerddoriaeth Cymru 2011 am ei albwm, Hotel Shampoo. Cafodd yr albwm Stainless Style gan ei broject cydweithredol electro-pop, Neon Neon, enwebiad hefyd am Wobr Nationwide Mercury yn 2008.
Roedd ei gefnder, Huw Stephens, hefyd yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i gerddoriaeth gyfoes cyn iddo ef mynd yn ei flaen i ymddangos yng Ng诺yl Latitude. Huw Stephens yw troellwr ieuengaf gorsaf Radio 1 y BBC a chyd-gyflwynydd rhaglenni cerddoriaeth Radio Cymru, C2. Mae Huw Stephens hefyd yn darlledu ac ysgrifennu am gerddoriaeth ac yn gyfrifol am lwyfan sawl g诺yl gerddorol. Yn 2007 sefydlodd 诺yl gerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd, sef S诺n.
Jeremy Howell.A hithau鈥檔 hanu o L欧n ac yn gyn ddisgybl o Ysgol Glan y M么r, efallai nad yw鈥檔 syndod bod Lowri Evans wedi dod i鈥檙 amlwg yn y byd morwrol. Er mai cyfrifeg yw ei chefndir, ers pum mlynedd bellach mae Lowri Evans yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion M么r a Physgodfeydd y Comisiwn Ewropeaidd. Derbyniodd Lowri Evans Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei chyfraniad i Wyddorau Eigion.
Wedi graddio鈥檔 wreiddiol o Goleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad Prifysgol 黑料不打烊, mae Jeremy Howell bellach yn Athro ym Mhrifysgol San Francisco, prifysgol fechan, Jeswitaidd uchel ei pharch. Cafodd ei dderbyn fel Gymrodor er Anrhydedd am ei gyfraniad i wyddorau chwaraeon.
Derbyniodd Dr David Roberts, cyn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, a ymddeolodd yn ddiweddar, anrhydedd am ei wasanaeth i鈥檙 Brifysgol. Bu Dr David Roberts, sy鈥檔 dal i fyw yn lleol, yn aelod o staff y Brifysgol am 35 o flynyddoedd, gan wasanaethu am un mlynedd ar ddeg fel Cofrestrydd Academaidd cyn dod yn Gofrestrydd y sefydliad, swydd a ddaliodd am bymtheg mlynedd. Ysgrifennodd Dr Roberts y llyfr diweddaraf ar hanes y Brifysgol, Prifysgol 黑料不打烊 1884-2009.
Dr David Roberts.Yn ymuno ag ef roedd cyn-fyfyriwr a raddiodd o鈥檙 Brifysgol yn 1958. Mae Bernard Taylor CBE ar hyn o bryd yn Gadeirydd Cambridge Laboratories Ltd ac mae ganddo radd mewn s诺oleg. Dechreuodd Bernard Taylor ei yrfa fferyllol mewn marchnata gyda SmithKline & French. Roedd gyda Glaxo o 1963 - 1990, yn Awstralasia yn bennaf, gan godi i fod yn Brif Weithredwr Glaxo Worldwide. Yna fe aeth ymlaen i gyd-sefydlu a gweithredu fel Gadeirydd Gweithredol Medeva plc, cyn symud i鈥檞 swydd bresennol. Mae i鈥檞 anrhydeddu am ei wasanaeth i wyddor fferyllol.
Daeth Myrddin ap Dafydd a Meirion Prys Jones i ymuno 芒鈥檙 seremoni raddio ddydd Mawrth am 3.00. Roedd Myrddin ap Dafydd, sylfaenydd Gwasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr o Lanrwst, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i lenyddiaeth Gymraeg a鈥檙 diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae Meirion Prys Jones yn gadeirydd y Network to Promote Linguistic Diversity; rhwydwaith Ewropeaidd sy'n ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol. Mae鈥檔 gyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn uchel ei barch ledled Ewrop gan bobol sydd yn ymwneud 芒 hawliau ieithyddol a chynllunio ieithyddol. Roedd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei waith yn y maes yma.
Bernard Taylor CBEaeth Nicholas Snowman OBE, Cadeirydd Wartski鈥檚 i'r Brifysgol i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i fyd busnes. Efallai bod enw Wartski yn fwy cyfarwydd nag enw Nicholas Snowman, er ei fod y bedwaredd genhedlaeth o鈥檌 deulu i arwain y gemyddion sydd bellach wedi ymsefydlu yn Llundain ac sy鈥檔 delio mewn gemwaith cain, blychau aur, arian a gweithiau celfyddyd gan Carl Faberg茅. Sefydlwyd y cwmni鈥檔 wreiddiol ym Mangor gan Morris Wartski yn 1865, ac yntau鈥檔 ffoadur o Rwsia鈥檙 Tsar.
Roedd Shireen Chambers yn ymuno ag ef yn yr un seremoni. Mae Shireen Chambers, a raddiodd o Brifysgol 黑料不打烊, ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Technegol yr Institute of Chartered Foresters. Anrhydeddwyd hi am ei chyfraniad i goedwigaeth.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol: 鈥淢ae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cael canlyniadau gwych mewn sawl maes yn y flwyddyn academaidd a aeth heibio: cafodd y Brifysgol ei rhoi ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd o ran ei
Myrddin ap Dafydd a Meirion Prys Jones.golygwedd ryngwladol, ac yn yr 20 uchaf am brofiad myfyrwyr, yn ogystal 芒 sicrhau canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF). Wrth i ni ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr a鈥檙 Brifysgol, mae鈥檔 fraint hefyd cael gwobrwyo eraill sydd 芒 chysylltiad 芒 Chymru neu鈥檙 芒鈥檙 Brifysgol ac sydd wedi rhagori yn gwahanol feysydd gan wneud cyfraniad gwerthfawr.鈥
Mae straeon am ein graddedigion llwyddiannus .
Nicholas Snowman OBE
Shireen Chambers
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2015