Prifysgol 黑料不打烊 yn y 50 Uchaf
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi llamu i fyny鈥檙 tablau i gael ei gosod ymysg y 50 prifysgol orau yn y DU yn 么l y Times and The Sunday Times Good University Guide 2015.
Mae hyn yn dilyn newyddion diweddar bod yr Arolwg Cenedlaethol o Foddhad Myfyrwyr (NSS) wedi gosod y Brifysgol ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr.
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, y newyddion gan ddweud:
"Mae gennym draddodiad sy鈥檔 ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ac rydym yn ymfalch茂o mewn ansawdd ein dysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol, ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi鈥檌 adlewyrchu yn y canllaw.鈥
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
Mae llawer o bethau sy鈥檔 rhaid i darpar-fyfyrwyr eu hystyried pan fyddant yn dewis prifysgol, gan gynnwys tablau cynghrair. Fodd bynnag, rydym ni鈥檔 wastad yn cynghori darpar-fyfyrwyr i ymchwilio drostynt eu hunain ac ymweld 芒鈥檙 prifysgolion hynny sydd ar eu rhestr fer. Rydym yn gobeithio y bydd ymddangosiad y Brifysgol yn y Canllaw yn annog myfyrwyr i ymweld 芒鈥檙 Brifysgol yn ystod ein Dyddiau Agored fis Medi eleni. Mae gweld lle drosoch eich hunan yn gwneud byd o wahaniaeth mewn unrhyw benderfyniad鈥
Cyhoeddir y prif atodiad Ddydd Sul 21 Medi yn gydag atodiadau ac erthyglau dilynol yn ymddangos yn The Times rhwng Llun-Iau 22-26 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2014