Prifysgol 黑料不打烊 yng Nghynghrair y Byd
Mewn byd lle mae prifysgolion yn cystadlu ar lefel fyd-eang i recriwtio鈥檙 myfyrwyr gorau a hefyd yr academyddion gorau i addysgu ac i ymchwilio yn eu Prifysgolion, mae enw da 黑料不打烊 fel Prifysgol ryngwladol yn cael cydnabyddiaeth.
Mewn tabl newydd o brifysgolion gorau鈥檙 byd, mae 黑料不打烊 ar safle 143 fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae hefyd ymysg y 200 prifysgol uchaf (safle 183) o ran recriwtio staff rhyngwladol, ac yn ymddangos yn y 50 uchaf ymhlith y prifysgolion o Brydain.
Meddai鈥檙 Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淢ae Prifysgol 黑料不打烊 yn dod yn wirioneddol amlwg ar draws y byd, fel cyrchfan ddeniadol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac 么l-raddedig, a hefyd fel gweithle i rai o ymchwilwyr a darlithwyr gorau鈥檙 byd.鈥
Ar ben y dangosyddion rhyngwladol gwych, sy鈥檔 dangos cyfran y myfyrwyr rhyngwladol ymysg y rhai a ddenir i Brifysgol 黑料不打烊, mae sgorau鈥檙 Brifysgol wedi gwella o ran enw da academaidd, enw da fel cyflogwr, o ran y gymhareb staff : myfyrwyr, a hefyd o ran y pum maes pwnc a ddysgir ar gyfer 2013/14, sef Celfyddydau a Dyniaethau, Peirianneg a Thechnoleg, Gwyddorau Bywyd a Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithas a Rheolaeth, a Gwyddorau Naturiol.
鈥淢ae 黑料不打烊 yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel ac yn gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol a鈥檙 tu hwnt,鈥 ychwanegodd yr Athro John G. Hughes.
Cyhoeddir Safleoedd Prifysgolion y Byd gan QS yn flynyddol a darllenir y tabl ym mhedwar ban y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013