Prifysgol yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2015
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn gwahodd staff, myfyrwyr a鈥檙 gymuned leol i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2015 ac i ddewis cynhyrchion sy'n newid bywydau.
Eleni, mae'r Brifysgol a Gr诺p Masnach Deg Cy
munedol 黑料不打烊 wedi dod at ei gilydd i roi cyfres o ddigwyddiadau ymlaen yn ystod y pythefnos i atgoffa pawb o'r gwahaniaeth dramatig mae Masnach Deg yn gwneud o gwmpas y byd a'r effaith gadarnhaol mae鈥檔 ei gael.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar y cyd fel Rygbi Masnach Deg, Ffair Masnach Deg cystadleuaeth Pobi, Cwis a noson ffilm fawreddog Masnach Deg a bydd rhai nwyddau Masnach Deg ar gael yng Ngorymdaith a gwasanaeth G诺yl Dewi 黑料不打烊 yn y Gadeirlan ar y 1af o Fawrth.
Meddai Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, ar ran y Gr诺p:
鈥淢ae Prifysgol 黑料不打烊 wedi ymrwymo i Fasnach Deg, mae gennym statws Masnach Deg a Pholisi Masnach Deg sy'n ymrwymo i sicrhau bod nwyddau Masnach Deg ar gael i'w prynu yn holl siopau ac ardaloedd arlwyo鈥檙 campws ac i ehangu argaeledd cynhyrchion Masnach Deg lle mae鈥檔 bosib. Mae bod yn Brifysgol Masnach Deg a hyrwyddo Masnach Deg yn bwysig i鈥檔 hymrwymiad i greu Prifysgol Cynaliadwy.
鈥淢ae prynu Masnach Deg yn un o鈥檙 dewisiadau llai annod y gallwn ei gymryd fel unigolion. Mae鈥檔 gyrru neges bwysig i fusnesau nad ydym yn fodlon ddioddef annhegwch; nad ydym eisio i bobol na鈥檙 amgylchedd cael eu trin yn wael dim ond er mwyn i ni allu prynu nwyddau rhad. Ymunwch 芒
Phrifysgol 黑料不打烊 wrth wneud dewis masnach deg ble bynnag y bo modd er lles gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.鈥
DIGWYDDIADAU
Dydd Mawrth 24 Chwefror
Bri i Fasnach Deg
Drwy鈥檙 dydd, Siop Ffridd & Academi
Newidiwch eich hen hwdi am hwdi newydd Masnach Deg 黑料不打烊 a chael 10% i ffwrdd! Bydd yr holl ddillad a roddir yn mynd i elusen leol.
Dydd Mercher 26 Chwefror
Canlyniad Etholiad UM a Coctels a Moctels
Bar Uno
Dydd Sadwrn 28 Chwefror
Rygbi Masnach Deg
G锚m Cymru v Ffrainc 6 Gwald gyda danteithion Masnach Deg
Bar Uno, 6pm
Dydd Sul 1 Mawrth
Pared a Gwasanaeth Gwyl Ddewi 黑料不打烊
Pared yn dechrau am 11.30 yn Maes Parcio stryd James ac yna ymlaen I鈥檙 gadeirlan
11.30-2.30
Dydd Llun 2il Mawrth
Cwis Masnach Deg
Bar Uno, 7.30
Dydd Mercher 4 Mawrth
Ffair Masnach Deg
Cyntedd Prif Adeilad y Celfyddydau 1-4pm
Dydd Iau 5 Mawrth
Methu Coginio 鈥 Gwneud Brownies Siocled Masnach Deg
Reichel, 7pm
Dydd Iau 5 Mawrth
Noson Ffilm Mawreddog Mashnach Deg
Ystafell Gyffredin Braint, Garth, Bryn Eithin Ol-Radd 8pm
Dydd Sadwrn 7 Mawrth
Cystadleuaeth Pobi a Bore Coffi Masnach Deg
Capel Penuel, 10am
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015