Prifysgol yn croesawu cyhoeddiad o gyllid ar gyfer datblygiad Pontio
Pontio (argraff pensaer)Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi croesawu鈥檙 cyhoeddiad o gyllid ar gyfer y datblygiad Pontio fel hwb enfawr i economi gogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o 拢27.5m gan Lywodraeth y Cynulliad, a鈥檙 Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd, yn creu a diogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan ar gyfer datblygiad twf economaidd yn yr ardal.
Meddai'r Athro Fergus Lowe, Dirprwy i'r Is-Ganghellor ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sy'n arwain y project: 鈥淢ae hwn yn newydd gwych i Fangor, yn ogystal ag i weddill Cymru a thu hwnt. Bydd Pontio鈥檔 dod yn ganolbwynt i鈥檙 gymuned leol, gan dynnu pobl a busnesau at ei gilydd i hyrwyddo buddsoddi ac adfywio yng ngogledd Cymru. Bydd yn manteisio ar sgiliau ac arbenigedd lleol i greu a diogelu cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes a fydd i gyd yn hyrwyddo twf economaidd yn y rhanbarth.鈥
Bydd Pontio yn ganolfan o鈥檙 safon uchaf un ar gyfer arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a鈥檙 diwydiannau creadigol, a bydd yn llusern ddiwylliannol i Gymru ac yn hyrwyddo鈥檙 iaith Gymraeg. Bydd yn cynnwys Canolbwynt Arloesi deinamig, cyfleusterau addysgu a dysgu o鈥檙 safon ddiweddaraf ac ystod o fannau perfformio dan do ac awyr agored, yn cynnwys theatr a sinema, amffitheatr awyr agored, caffis, bwytai a pharcdir lle gall pobl gyfarfod, dysgu a chael eu diddanu.
Agorir yr adeilad newydd yn fuan yn 2013 a bydd yn canolbwyntio ar sgiliau o ansawdd uchel a fydd yn cynhyrchu technolegau newydd ar gyfer busnesau mewn meysydd mor amrywiol 芒 thechnolegau digidol, y diwydiannau creadigol, nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, biowyddoniaeth, meddalwedd ac offer delweddu uwch, ymysg llawer eraill. Bydd hefyd yn hybu a datblygu ystod o ymchwil o'r safon uchaf i faterion economaidd-gymdeithasol cyfoes pwysig, yn arbennig ym meysydd iechyd a gwarchod yr amgylchedd.
Disgwylir i鈥檙 project gael effaith gadarnhaol ar tua 900 o swyddi: caiff 450 o swyddi eu creu neu eu diogelu yn ystod y cam adeiladu, disgwylir i 100 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn ystod y cam gweithredu, a disgwylir i 330 o swyddi pellach gael eu cynnal drwy weithgareddau鈥檙 Canolbwynt Arloesi a gweithgareddau eraill y Ganolfan.
Ychwanegodd Yr Athro Lowe:
鈥淢ae鈥檙 project yn un uchelgeisiol ac eiconig ac rydym yn credu y caiff effaith sylweddol iawn ar yr holl bobl a ddaw i gysylltiad ag o. Bydd yn rhoi Canolfan arloesol a rhagoriaeth artistig a fydd yn sicr o dynnu sylw pobl o bell ac agos, yn ogystal ag ysgogi a hybu twf economi gogledd Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth y Cynulliad ac i鈥檙 Undeb Ewropeaidd am eu gweledigaethol yn cefnogi鈥檙 project allweddol yma yng Ngogledd Cymru.
Drwy鈥檙 Ganolfan i gyd caiff arloesi newydd a mannau addysgu a dysgu cymdeithasol eu creu i roi amgylchedd addysgol modern o鈥檙 safon uchaf a fydd o fudd i fyfyrwyr, a fydd yn hybu cysylltu 芒鈥檙 gymuned, ac a fydd yn helpu busnesau Cymreig i gydweithio 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 ac elwa ar ei gwybodaeth. Yn ogystal 芒 mannau dysgu ac arloesi, bydd gan y Ganolfan gyfleusterau digidol o鈥檙 radd flaenaf i alluogi arddangos gwaith gan ddefnyddio鈥檙 dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.
Meddai鈥檙 Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淐yfle unwaith mewn cenhedlaeth i Fangor ydi hwn. Byddwn yn creu Canolfan o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a鈥檙 celfyddydau perfformio a fydd yn symbol grymus o adfywio a chydweithio i鈥檙 gymuned gyfan.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2010