Prifysgol yn penodi hyrwyddwr dros y Gymraeg a Chysylltiadau 芒鈥檙 Gymuned
Mr Wyn ThomasMae Prifysgol 黑料不打烊 wedi penodi Mr Wyn Thomas i swydd Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros gyrsiau Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, graddiodd Mr Wyn Thomas o Brifysgol 黑料不打烊, ac mae鈥檔 gweithio yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol ers 1979.
Ei brif r么l yn y swydd newydd fydd datblygu ac arwain strategaethau鈥檙 Brifysgol ar gyfer hyrwyddo鈥檙 iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal 芒 datblygu cysylltiad y Brifysgol 芒 chyrff allanol a鈥檙 gymuned. Yn y cyswllt hwn, bydd yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad project PONTIO.
Meddai鈥檙 Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, 鈥淩wyf yn falch iawn ein bod wedi penodi Wyn Thomas i鈥檙 swydd bwysig hon. Mae ymrwymiad Wyn wrth addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn ddiamheuol. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad pwysig at addysg cyfrwng Cymraeg ym Mangor ac ar draws Cymru, a bydd yn awr yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y r么l newydd sy鈥檔 hanfodol i lwyddiant y Brifysgol yn ogystal ag i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol.鈥
Meddai Wyn Thomas, 鈥淢ae gan y Brifysgol hanes cryf o ymrwymiad wrth yr iaith Gymraeg ac wrth y gymuned leol. Rwy鈥檔 awyddus iawn i ymgymryd 芒鈥檙 sialensiau a鈥檙 cyfleoedd i gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, yn ogystal 芒 gwella cysylltiadau, yn lleol a thrwy Gymru.鈥
Yn ychwanegol at ei swyddogaethau darlithio ac ymchwil, roedd Mr Thomas yn bennaeth ar Addysgu a Dysgu yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a鈥檙 Dyniaethau rhwng 2007-10, ac yn ddiweddar hefyd yn gyfrifol am ddysgu drwy鈥檙 Gymraeg. Mae wedi bod yn arwain project ar y cyd ar ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym maes cerddoriaeth ar draws prifysgolion Cymru, wrth baratoi ar gyfer dyfodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae wedi chwarae rhan ganolog o ran datblygu ac ehangu鈥檙 dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊, a llawer ohonynt wedi cynnwys pynciau blaengar.
Yn ogystal 芒 chynhyrchu ymchwil ysgolheigaidd ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru, mae Wyn Thomas wedi cael llwyddiant mawr ym maes trosglwyddo gwybodaeth, yn enwedig o ran galluogi busnesau lleol a rhai bach a chanolig i gael mynediad at arbenigaeth o fewn yr Ysgol Cerddoriaeth er lles i鈥檞 busnesau. Yn nodweddiadol, ef oedd y cyntaf i sefydlu cynllun partneriaeth ym Mhrydain oedd yn cysylltu cwmni bach ag adran o fewn y celfyddydau. Yn ogystal 芒 bod o gymorth i鈥檙 busnes, aeth y bartneriaeth ymlaen i ennill gwobr Adran Masnach a Diwydiant am safon a chynnyrch yr ymchwil.
DIWEDD
24.1.11
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2011