Project gwyddoniaeth 黑料不打烊 yn ennill gwobr yr UE
Enrique Moliner yn derbyn y wobr ar ran t卯m BREAD4PLA : Llun: AIMPLASMae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y mae ymchwil Prifysgol 黑料不打烊 wedi bod yn rhan allweddol ohono, wedi ennill un o ddwy 鈥渨obr werdd鈥 fel un o鈥檙 projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.
Mae ymchwilwyr o AIMPLAS, Sefydliad Technolegol Plastigau Sbaen; ac Ysgol Cemeg Prifysgol 黑料不打烊; ATB, Sefydliad Peirianneg Amaethyddol yr Almaen a CETECE, Canolfan Technoleg Grawnfwydydd Sbaen wedi llwyddo i ddatblygu deunydd pacio bioddiraddadwy newydd ar gyfer cynnyrch pobi, o鈥檙 gwastraff a gynhyrchir gan yr un diwydiant.
Esboniodd Dr Viacheslav Tverezovskiy o'r Ganolfan Biogyfansoddion: "Roedd gwastraff o grystiau bara, bara tafellog a chacennau sbwng yn cael eu heplesu ac yn derbyn triniaeth ensymaidd i gael asid lactig. Cafodd yr asid lactig ei bolymeru i fod yn bolymer bioddiraddadwy sef PLA. Proseswyd y polymer gan y dechneg allwthio bresennol i gynhyrchu ffilm deunydd pacio gyda nodweddion rhwystrol ardderchog, sy鈥檔 addas ar gyfer cynnyrch gwahanol yn y sector pobi, hyd yn oed ar gyfer pacio pasta a fferins.
T卯m ymchwil prosiect BREAD4PLA"Mae鈥檙 deunyddiau pecynnu newydd yn hollol fioddiraddadwy a gellir eu compostio. Mae llwyddiant y project yn helpu i ddangos manteision economi gylchol ac mae yna fwy o wastraff bwyd y gellir ei ddefnyddio. Mae鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion yn parhau i ymchwilio i PLA bio-ddeilliadol a deunyddiau bioplastig eraill i sicrhau dyfodol cynaliadwy."
Dewiswyd enillwyr y ''Gwobrau Gwyrdd'' drwy bleidlais gyhoeddus ar Facebook a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn yn ystod ym Mrwsel ym mis Mai. Roedd cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, asiantaethau鈥檙 llywodraeth, sefydliadau addysgol, myfyrwyr, cwmn茂au preifat a chyrff anllywodraethol o bob cwr o Ewrop yn bresennol yn y seremoni. Amlygodd y digwyddiad llwyddiannau trawiadol LIFE yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf a'i gyfraniad at gynaliadwyedd, lleihau effaith dynol ar yr amgylchedd, diogelu treftadaeth naturiol Ewrop a mynd i'r afael 芒 her newid yn yr hinsawdd.
Yr adweithydd polymeriad yn y Ganolfan BiogyfansoddionDisgrifiodd , Comisiynydd Ewropeaidd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, effaith rhaglen gyllido : "Mae chwarter canrif yn amser hir, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae [LIFE] wedi cyflawni llawer iawn. Mae wedi ariannu mwy na 4,000 o brojectau gwerth dros 鈧3 biliwn." Dywedodd hefyd bod y gwobrau yn adlewyrchu gwaith y Comisiwn drwy "werthfawrogi ymdrechion miloedd, a gwaith caled ac ymroddiad pawb sydd wedi cyfrannu at y rhaglen yn ei chyfanrwydd."
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017