Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen
Beth oedd y perthynas rhwng y C卯perwyr ar St芒d Penrhyn a'r gymuned tybed?Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn grant o 拢10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar yst芒d y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Am ganrifoedd bu yst芒d y Penrhyn yn rym hynod nerthol ym mywyd gogledd-orllewin Cymru. Roedd yn berchen ar diroedd eang a'i dylanwad yn treiddio i bob agwedd ar gymdeithas, megis diwydiant, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd, pensaern茂aeth, ffermio a rheoli tir. Mae rhannau pwysig o'r stori gymhleth hon, a oedd yn gynhennus iawn ar brydiau, wedi eu diogelu a'u dehongli mewn safleoedd treftadaeth o bwys, yn cynnwys Castell Penrhyn a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Fodd bynnag, ni roddwyd fawr o sylw hyd yma i fywydau a phrofiadau'r miloedd o bobl hynny a fu'n byw ar yr yst芒d fel tenantiaid ac a oedd yn gweithio ar ffermydd yr yst芒d, neu a gyflogid fel coedwigwyr, ciperiaid neu fel gweision a morwynion yn y Castell. Nod y project yw unioni'r diffyg hwn drwy atgofion a memorabilia pobl sy'n byw yn yr ardal, a thrwy ymchwilio i gofnodion hanesyddol a gedwir yn Archifau Prifysgol 黑料不打烊 ac Archifdy Caernarfon.
Cynhelir y project treftadaeth tri mis rhwng Ionawr a Mawrth 2018 a bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn gwahanol fannau ar draws y rhanbarth i gasglu a rhannu gwybodaeth. Anogir aelodau'r cyhoedd sydd eisiau rhannu eu gwybodaeth neu gymryd rhan yn yr ymchwil i ddod i un o'r digwyddiadau
Oes yna dystiolaeth sut brofiad oedd bod yn weithiwr new weithwraig ar stad y Penrhyn yn bodoli yn rhywle?hyn i rannu atgofion a memorabilia. Bydd y project hefyd yn cynnwys teithiau treftadaeth, gweithdai archif, sesiynau hyfforddi a rhoi sylw arbennig i ymchwil.
Erbyn diwedd y project, mae'r t卯m yn gobeithio y bydd wedi casglu gwybodaeth a fydd o help i ateb rhai o'r cwestiynau a ganlyn: Sut y gwnaeth blaenoriaethau a gweithredoedd tirfeddianwyr effeithio ar gymunedau ar draws Dyffryn Ogwen? Sut berthynas oedd yna rhwng landlordiaid a thenantiaid? Sut brofiad oedd gweithio fel gwas neu forwyn yng Nghastell Penrhyn? Sut y dylanwadodd ystadau ar arddull pensaern茂aeth leol? Beth oedd effeithiau dirywiad a gwerthu'r ystadau yn yr ugeinfed ganrif ar y gymuned? Cyflwynir y darganfyddiadau hyn drwy arddangosfa deithiol ac ar-lein drwy wefan y project.
Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, wrth ymateb i'r newydd am dderbyn y grant:
'Dwi'n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gael cyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y project cyffrous yma a fydd yn galluogi'r brifysgol i gydweithio'n agos 芒 grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth ar draws y rhanbarth er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o agweddau ar hanes Cymru sydd wedi cael eu hesgeuluso hyd yma. Hoffwn annog unrhyw un sydd 芒 chysylltiad hanesyddol 芒'r rhanbarth i gymryd rhan yn y project drwy rannu eu hatgofion, tyrchu am hen luniau teuluol, ymuno 芒'r t卯m ymchwil neu ddod i'r digwyddiadau. Llawer o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol am eu cefnogaeth."
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018