R.S. Thomas 鈥 Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol
Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi鈥檌 nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad. Y gyntaf yw casgliad sylweddol o lawysgrifau a theipysgrifau R.S. Thomas, yn cynnwys llawer o ddeunydd anghyhoeddedig, o yst芒d y diweddar Peter Jollife, casglwr blaenllaw ym maes llyfrau a llawysgrifau llenyddol modern.
Toriad papur newydd lleol, yn dangos t卯m o glerigwyr yn chwarae rygbi, yn cynnwys yr R.S.Thomas ifanc.
鈥淢ae hwn yn ychwanegiad o bwys at ddaliadau鈥檙 Ganolfan, sydd eisoes yn sylweddol,鈥 meddai鈥檙 Athro Tony Brown, un o Gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan.
鈥淗wn oedd y casgliad mwyaf arwyddocaol o ddeunydd gan R.S. Thomas a oedd yn dal gan unigolyn preifat ac a gynullwyd dros lawer o flynyddoedd, ac rydym yn ddiolchgar am gymorth yr Archif a鈥檙 Brifysgol er mwyn ei sicrhau. Mae鈥檙 casgliad yn cynnwys drafftiau llawysgrif o gerddi, sy鈥檔 dyddio o ddechrau gyrfa Thomas, yn ogystal 芒 gwaith diweddarach. Ceir hefyd nifer o ddarnau rhyddiaith, yn cynnwys llawysgrif cyfres o stor茂au byrion anghyhoeddedig, rhai honynt ar y cyd 芒 darluniau gan wraig Thomas, yr arlunydd Elsi Eldridge. Rydym hefyd yn falch iawn fod y casgliad newydd yn cynnwys tri llun golosg o R.S. gan Elsi, gyda dau ohonynt o鈥檙 1940au, tua鈥檙 adeg y bu iddynt briodi. Mae鈥檔 ddifyr sylwi bod y casgliad hefyd yn cynnwys toriad papur newydd yn dangos R.S. mewn dillad rygbi, ac yntau鈥檔 aelod o d卯m rygbi lleol yn Wrecsam pan oedd yn gurad!鈥
Yn gynharach eleni cafodd y Ganolfan hefyd gasgliad sylweddol o lyfrau o lyfrgell bersonol R.S. Thomas, pan werthwyd cartref olaf y bardd, ym Mhentrefelin, gan deulu ei ail wraig, Betty Vernon. Mae鈥檙 llyfrau yn cynnwys cop茂au R.S. Thomas o waith nifer o feirdd a fu鈥檔 ddylanwad ar ei farddoniaeth, yn cynnwys gwaith beirdd Americanaidd megis William Carlos Williams a Wallace Stevens. Ceir hefyd gopi o The Great Hunger, gan y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh, y cydnabuwyd iddo gyfrannu at ddatblygiad portread Thomas o ffermydd mynydd-dir Cymru yn ei waith cynnar ac at lunio un o greadigaethau mwyaf cofiadwy鈥檙 bardd, Iago Prytherch.
鈥淢ae hi o hyd yn ddiddorol cael mynediad at lyfrgell bersonol awdur,鈥 meddai鈥檙 Athro Brown, 鈥渋 gadarnhau鈥檙 hyn yr oedd yn ei ddarllen ar adeg benodol. Yn anffodus, nid oedd Thomas yn rhoi rhyw lawer o sylwadau yn ei lyfrau, ond ceir ambell enghraifft o farginalia arwyddocaol iawn ar ymylon tudalennau rhai o鈥檌 lyfrau ar ddiwinyddiaeth a gwyddoniaeth.鈥
Mae sicrhau deunydd gan Elsi Eldridge hefyd yn ychwanegu at gasgliad y Ganolfan o鈥檌 gwaith fel arlunydd a darlunydd 鈥 archif sy鈥檔 cynnwys dau ddyddiadur mewn llawysgrif, llyfrau braslunio, a llawer o ddyluniadau. Bu鈥檙 deunydd hwn yn sail yn ddiweddar i raglen deledu am ei bywyd a鈥檌 gwaith, y bu Dr Jason Walford Davies o Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, yn brif gyfrannwr ac yn Ymgynghorydd Academaidd arni. Roedd y rhaglen, Pwy Oedd Mrs. R.S. Thomas?, yn tynnu sylw at waith pwysig gan yr arlunydd, 鈥淭he Dance of Life鈥 鈥 murlun anferth ar chwe ffr芒m gynfas, a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer yr ysbyty yng Ngobowen, ond sydd wedi bod ynghudd, mewn storfa, am flynyddoedd lawer.
Meddai Dr Jason Walford Davies: 鈥淢ae hwn yn waith celf o bwys 鈥 yn wir yn un o鈥檙 gweithiau celf mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain ers y Rhyfel. Mae鈥檔 sobor o beth nad yw gwaith mor drawiadol yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae鈥檙 murlun, sy鈥檔 pwysleisio pwysigrwydd byd natur a pheryglon technoleg fodern, hefyd yn amlygu鈥檙 hyn a welir yn achos gweithiau eraill gan Elsi, yn cynnwys ei gwaith ysgrifenedig, sef ei bod wedi dylanwadu鈥檔 sylweddol ar feddwl a gwaith ei g诺r, yn enwedig o ran ei agwedd at gefn gwlad a鈥檙 amgylchedd.鈥
Mae rhoddion diweddar i鈥檙 Ganolfan yn cynnwys y llythyrau 鈥 cyfanswm o 152 鈥 a anfonwyd gan R.S. Thomas dros gyfnod o hanner canrif at y bardd a鈥檙 beirniad adnabyddus, Raymond Garlick. (Cyhoeddwyd golygiad Dr. Davies o鈥檙 ohebiaeth hon yn ddiweddar gan Wasg Gomer.)
Braslun o R.S. Thomas gan Elsi Eldridge
Mae鈥檙 ffaith fod y casgliadau sylweddol hyn wedi dod i feddiant y Ganolfan yn cadarnhau ei statws rhyngwladol ym maes astudio gwaith R.S. Thomas. Yn ddiweddar, croesawodd y Ganolfan nifer o ysgolheigion ar ymweliad, o鈥檙 DU ac o dramor, ac yn eu plith Ms Cheng Jia, o Brifysgol Jinan, Tsieina, a oedd ar ymweliad estynedig, ac sydd wedi cyfieithu barddoniaeth Thomas i鈥檙 Tsiein毛eg.
Cyswllt:
Yr Athro Tony Brown, els015@bangor.ac.uk
Dr Jason Walford Davies, j.w.davies@bangor.ac.uk
Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas:
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010