REF 2014: Cydnabod dylanwad ysgolheictod Ysgol y Gymraeg
Ar hyd y blynyddoedd y mae ysgolheigion Cymraeg Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyfrannu鈥檔 helaeth i ddiwylliant Cymru. Bu galw cyson am eu gwasanaeth ym myd yr Eisteddfod, ar radio a theledu, ac ymhlith cymdeithasau llenyddol ar hyd a lled Cymru. Drwy gyfrwng eu cyhoeddiadau, ym maes geiriaduraeth ac ysgrifennu creadigol yn enwedig, y mae eu dylanwad ar fywyd Cymru wedi bod yn bellgyrhaeddol. Ategir hynny hefyd ym Mangor gan Ganolfan Bedwyr a鈥檙 Uned Technolegau Iaith sydd wedi cyfrannu鈥檔 helaeth at hyrwyddo defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle ac ym myd addysg.
Mae鈥檙 cyfraniad hwn bellach wedi ei gydnabod yn ffurfiol mewn arolwg o waith ymchwil holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, sef Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Ym maes y Gymraeg, ieithoedd modern ac ieithyddiaeth yr oedd 黑料不打烊 yn yr ail safle allan o 57 o sefydliadau yng nghyd-destun dylanwad gwaith ymchwil y tu hwnt i furiau prifysgolion ac ar gymdeithas yn gyffredinol.
Ym marn Yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, y mae鈥檙 llwyddiant hwn yn deillio o ymrwymiad deublyg a fu鈥檔 nodwedd erioed ar astudio鈥檙 Gymraeg ym Mangor.
鈥淔el academwyr ym maes y Gymraeg, ein braint fawr ni yw cael ymwneud yn ysgolheigaidd 芒鈥檙 Gymraeg a鈥檌 llenyddiaeth a chynnal ac ymestyn y traddodiad deallusol o鈥檜 hastudio. Law yn llaw 芒 hynny yr ydym yn hynod ymwybodol nad mewn gwagle y mae ysgolheictod y Gymraeg yn bodoli. Mae cyfrannu i鈥檙 diwylliant Cymraeg ac ymwneud yn egn茂ol 芒 chynulleidfaoedd y tu hwnt i furiau鈥檙 Brifysgol yn beth cwbl naturiol i ni. Wrth gwrs, y mae鈥檔 fonws ychwanegol fod yr agwedd bwysig hon ar ein gweithgarwch bellach wedi ei cael ei chydnabod yn ffurfiol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.鈥
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014