REF 2014: Ymchwil yr Ysgol yn Ail yn y DU o ran Effaith
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyfrannu鈥檔 gadarnhaol at lwyddiant y Brifysgol yn Fframwaith Asesu Ymchwil 2014, o ran yr Uned Asesu ar Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth.
Mae鈥檙 Uned wedi鈥檌 chydnabod yn gydradd ail yn y DU o ran ei heffaith, a mwy na dwy ran o dair o鈥檙 cynnyrch ymchwil wedi鈥檌 barnu naill ai鈥檔 benigamp neu鈥檔 rhagorol yn rhyngwladol. Barnwyd bod 90% o鈥檙 astudiaethau achos ymchwil a gyflwynwyd yn cael effaith benigamp, a鈥檙 10% oedd yn weddill yn cael effaith ragorol ar lefel ryngwladol.
Roedd y pynciau ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg yn canolbwyntio ar agweddau ar ddwyieithrwydd, yn cynnwys caffael geirfa mewn dwy iaith, morffoleg a darllen yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg, a materion cysylltiedig 芒鈥檙 modd y mae plant dwyieithog yn dewis defnyddio iaith y tu fewn a鈥檙 tu allan i iaith y dosbarth yn yr iaith leiafrifol.
Mynegodd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Enlli Thomas, ei boddhad yngl欧n 芒鈥檙 canlyniadau: 鈥淢ae鈥檙 canlyniadau hyn yn rhagorol ac yn dyst i bwysigrwydd cynnal ymchwil o鈥檙 ansawdd uchaf. O gofio ein cysylltiad ag ysgolion, gall ein hymchwil ni ddylanwadu ar batholeg ac, yn y pen draw, gwella addysg plant. Mae gennym enw penigamp ar draws y byd fel arweinwyr ym maes addysg ddwyieithog, ac mae canlyniadau REF 2014 yn dyst i鈥檔 gallu i gael effaith ar ddatblygiadau yn y maes yn y dyfodol.鈥
Mae canlyniadau鈥檙 REF yn dilyn perfformiad yr Ysgol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 a oedd yr un mor gryf. Mae canlyniadau ACM yn gosod cyrsiau SAC yr Ysgol mewn Addysg Gynradd ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr, tra bo cyrsiau eraill hefyd wedi ennill sg么r uchel (yn cynnwys canran boddhad o 100% yn y cwrs BSc mewn Dylunio a Thechnoleg).
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014