Rhaglen gelfyddydol agoriadol Pontio yn edrych tua鈥檙 dyfodol wrth gydnabod y gorffennol
Bydd , Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol 黑料不打烊, sydd ar drothwy agor ei drysau, yn cyhoeddi ei rhaglen artistig lawn heddiw, 28 Hydref 2015.
Bydd y rhaglen, sy鈥檔 rhedeg o Dachwedd 28 tan ddiwedd Ebrill, yn adlewyrchu natur hyblyg y ganolfan a鈥檌 gofodau, gyda digwyddiadau鈥檔 cynnwys popeth o berfformiad cyntaf drama newydd Theatr Genedlaethol Cymru Chwalfa, i berfformiad ar y cyd gyda chwmni syrcas gyfoes NoFit State, Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl yn dychwelyd i Fangor, noson yng nghwmni Ruby Wax, cyfle i glywed cerddoriaeth newydd yn noson DJ Huw Stephens yn cyflwyno鈥 digon o gomedi a sinema.
Bydd plant a theuluoedd yn cymryd lle allweddol yn y rhaglen, gyda digwyddiadau misol dan adain 鈥Teulu Pontio鈥, cyfleoedd i gymryd rhan a digwyddiadau addysgiadol.
Mae鈥檙 tymor agoriadol hefyd yn gyfle i鈥檙 ganolfan gydnabod y gorffennol mewn sawl ffordd, gan gynnwys treftadaeth yr ardal leol drwy brosiect 9Bach Llechi a hanes y streic fawr yn Chwalfa, yn ogystal 芒 gwaddol Theatr Gwynedd drwy arddangosfa a digwyddiad dathlu ar ddiwedd Ebrill.
Bydd y tymor yn cychwyn ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd gyda Disgleirio/Shine, Diwrnod Croeso i ddathlu agoriad y ganolfan i鈥檙 cyhoedd. Bydd y diwrnod yn cynnwys tri perfformiad 20munud o hyd gan gwmni syrcas cyfoes Pirates of the Carabina ac artistiaid lleol fydd yn perfformio yng nghyntedd trawiadol yr adeilad ac yn arddangos hyblygrwydd y ganolfan o ran cynnig perfformiadau arloesol. Yn ymuno 芒 hwy fydd disgyblion o ysgolion Glanadda a Glancegin, fel rhan o gynllun cyfranogol Pontio, BLAS.
Ar Ragfyr 1af, bydd sinema y ganolfan yn agor yn swyddogol, gyda ffilm newydd sbon un o raddedigion Prifysgol 黑料不打烊 Danny Boyle, Steve Jobs. Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Opera Canolbarth Cymru yn perfformio dathliad opera ar ffurf Ffigaro a Ffrindiau, bydd Only Men Aloud yn ymweld fel rhan o鈥檌 taith Nadolig ac fe fydd Cwmni Mega yn cynnig diddanwch llwyr i deuluoedd ac ysgolion drwy eu pantomeim Melltith y Brenin Lludd.
Bydd y ganolfan hefyd yn rhoi llwyfan i dalent lleol drwy gydol y rhaglen agoriadol, gan ddechrau yn mis Rhagfyr gyda gig yn cynnwys rhai o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, S诺nami, Yws Gwynedd a Yr Eira, C么r y Penrhyn a Ch么r Meibion Llanelli ynghyd 芒 Meinir Wyn Roberts a Glain Dafydd, a sioe gerdd newydd Ysgol Tryfan, Y Bancsi Bach.
Ymysg yr uchafbwyntiau yn y flwyddyn newydd mae sioe-un-ddynes Ruby Wax, Sane New World, gigiau comedi Comedy Central Live a sioe un-dyn Russell Kane, y pianydd Ll欧r Williams a Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl a sioeau misol i blant a鈥檌 teuluoedd, gan gynnwys premi猫re y byd o These Books Are Made for Walking.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, 鈥淧鈥檜n ai鈥檔 ddigwyddiadau sy鈥檔 gwthio ffiniau, rhai sy鈥檔 wledd i鈥檙 llygad neu鈥檙 glust neu鈥檔 gyfle i ymlacio a chwerthin, fe gewch groeso cynnes yma. Rwyf wir yn gobeithio fod y rhaglen gyntaf hon yn dangos y math o ganolfan y mae Pontio鈥檔 gobeithio ei chreu, ac yn ein galluogi i ddeall yn well y math o ddigwyddiadau mae cynulleidfaoedd eisiau eu profi yma.鈥
Dymunodd Bryn Terfel pob llwyddiant i Pontio wrth i鈥檙 ganolfan, sydd yn cynnwys theatr wedi ei enwi ar ei 么l, gyhoeddi ei rhaglen agoriadol:
鈥淢ae鈥檔 fraint anhygoel i mi鈥檔 bersonol fod rhywun wedi hyd yn oed cysidro enwi theatr ar fy 么l. Mae Pontio wedi cymryd ei amser i gael ei adeiladu, a heb amheuaeth, dylid fod wedi cymryd amser i鈥檞 adeiladu. Unwaith y mae鈥檙 ganolfan ar agor, yn sicr fi fydd y cyntaf i fod yno, naill ai fel aelod o鈥檙 gynulleidfa neu fel perfformiwr, ac ar yr adeg iawn, fe fydd dyddiadau鈥檔 cael eu hychwanegu. Yn y cyfamser, rwyf yn dymuno鈥檙 gorau i Pontio, ei holl staff a鈥檙 t卯m creadigol, heb eu hetiau caled, ar gyfer tymor agoriadol i鈥檞 gofio.鈥
Tocynnau ar gael o wefan Pontio, drwy ffonio 01248 38 28 28 neu drwy alw yn y siop ar y Stryd Fawr o 10am heddiw, 28 Hydref 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015