Rhaglen Menter yr Ifanc
Rhai o'r myfyrwyr wrthi'n gwneud gweithgaredd fel rhan o'r lansiad diweddarMae’r tîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn gyffrous iawn o fod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn y Rhaglen Menter yr Ifanc - cyfle i brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny. Bydd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn sefydlu 4 busnes newydd y gall myfyrwyr gymryd rhan i’w siapio. ºÚÁϲ»´òìÈ yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan eleni, a bydd yn cystadlu yn erbyn prifysgolion ar draws Brydain.
Bu i chwedeg pedwar o fyfyrwyr o amrywiaeth eang o ysgolion academaidd gymryd rhan yn y lansiad yn ddiweddar. Dechreuodd Callum Jones o Fenter yr Ifanc y digwyddiad gyda chyflwyniad i’r rhaglen. Rhoddwyd rhagor o ysbrydoliaeth gan Dr James Intriligator, Cyfarwyddwr Masnacheiddio yn yr Ysgol Seicoleg, a Rob Popsys, hyfforddwr a mentor proffesiynol o Willcando. Bu i Chris Walker, hwylusydd profiadol a mentor busnes o People Systems International, helpu myfyrwyr i feddwl am y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol mewn timau. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn ‘gweithgaredd hunan-drefnu’ lle’r oeddent yn cael cyfle i gyflwyno syniad busnes i’r ystafell i ddenu eraill i’r syniad. Mae ganddynt gyfle ar-lein yn awr i bleidleisio am y syniad maent yn dymuno’i ddatblygu, a ffurfio timau a fydd yn datblygu syniad busnes go iawn dros y flwyddyn i ddod. Bydd Siwan Mitchelmore, Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, yn rhan o’r gefnogaeth fentora a gynigir i’r tîm.
Mae’r rhaglen, sy’n rhoi mynediad at ymgynghorwyr busnes, yn costio £1,500 fesul tîm fel rheol, ond mae am ddim ym Mangor drwy gysylltiadau’r Brifysgol gyda Santander sy’n cefnogi’r cynllun. Bydd y timau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd cyn mynd ymlaen i rownd derfynol Prydain yn Llundain, ac i’r rownd derfynol Ewropeaidd wedyn os byddant yn llwyddiannus.
Gall myfyrwyr unigol sy’n cwblhau’r rhaglen ennill 50 pwynt profiad tuag at Wobr Cyflogadwyedd ºÚÁϲ»´òìÈ (BEA) am gymryd rhan. Dywedodd John Jackson, Rheolwr y BEA am Fenter yr Ifanc, ‘Mae’r rhaglen hon yn ychwanegiad gwych i’r portffolio o gyfleoedd sy’n gymwys am bwyntiau profiad yng nghynllun y BEA. Mae sefydlu a rhedeg busnes yn amlwg o fudd i’ch cyflogadwyedd, a rhywbeth pwysig i’w gofio yw y gellir gwella sgiliau intrepreneuraidd drwy gyfleoedd fel hyn hefyd; nid oes angen i chi weithio i chi’ch hun er mwyn defnyddio’r sgiliau sydd eu hangen yn y meysydd hyn, ac mae cael profi a fyddech chi’n hoffi ai peidio yn fuddiol iawn’
Trefnir digwyddiad Menter yr Ifanc gan y project Byddwch Fentrus o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012