Rhannu llofnod Hitler mewn ymgais i sicrhau diogelwch
Mae hanes twymgalon o ddewrder a chyfeillgarwch y tu 么l i gopi prin o lofnod Hitler sy鈥檔 cael ei arddangos am y tro cyntaf, a hynny ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol 黑料不打烊.
Mae arddangosfa fechan yn esbonio arwyddoc芒d y llythyr a arwyddwyd gan y F眉rher a sut y daeth i Gymru yn y lle cyntaf, a sut y daeth i fod ar fenthyg i Archif y Brifysgol. Mae鈥檙 Arddangosfa ar agor i鈥檙 cyhoedd yn ystod yr wythnos rhwng 9.00- 5.00.
Dr Theodor LewaldMae鈥檙 llythyr a lofnodwyd gan Hitler yn diolch i aelod uchel o鈥檙 gwasanaeth sifil yn yr Almaen, Dr Theodor Lewald am ei gymorth wrth lwyfannu鈥檙 G锚mau Olympaidd gwaradwyddus yn Berlin yn 1936. Ond mae celwydd ynddo. Nid ymddeol oherwydd ei oed yr oedd Dr Lewald ond, yn hytrach, cael ei orfodi i wneud oherwydd ei dras Iddewig. Anfonodd ef y llythyr ymlaen at athrawes, Dr Dorothea Wegle, aelod o ddosbarth canol uwch yr Almaen 鈥 a nifer ohonynt yn wrthwynebus i fudiad y Nats茂aid a鈥檙 hyn yr oeddynt yn ei gynrychioli.
Daeth yn adnabyddus yn lleol oherwydd ei gwrthwynebiad i鈥檙 gyfundrefn Natsiaidd ac roedd Dr Lewald yn gobeithio o y byddai rhoi鈥檙 llythyr i鈥檞 meddiant efallai鈥檔 achub ei bywyd petai鈥檙 Gestapo yn ei herlid.
Dr Dorothea WegleBu i Dr Wegle oroesi鈥檙 Rhyfel, fel y gwnaeth Dr Lewald. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd hi鈥檙 llythyr i gyn-ddisgybl a oedd wedi aros mewn cysylltiad 芒 hi. Y cyn-ddisgybl honno, Mrs Renate Ellis Jones o Dregarth sydd wedi rhoi鈥檙 llythyr ar fenthyg i鈥檙 Archif.
Fel yr esbonia鈥檙 Archifydd, Einion Thomas, yr hanes: 鈥淩oedd gan Lewald ddiddordeb brwd mewn chwaraeon. Bu鈥檔 bennaeth ar Bwyllgor Trefnu鈥檙 Almaen a enillodd G锚mau Olympaidd 1916 i Berlin, er na chawsant eu cynnal oherwydd y rhyfel. Fel aelod o鈥檙 Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, llwyddodd i argyhoeddi鈥檙 pwyllgor fod yr Almaen yn cael cystadlu unwaith eto yn y G锚mau Olympaidd. Ym 1931, o ganlyniad i鈥檞 ymdrechion, dyfarnwyd G锚mau 1936 i Berlin. Yn 1932, daeth yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu G锚mau Berlin.
鈥淧an gipiodd y Nats茂aid rym yn Ionawr 1933, wynebodd Lewald argyfwng personol. Roedd yn hanner Iddew, ac er iddo gael ei fedyddio鈥檔 Gristion, cyn belled ag yr oedd y Nats茂aid yn y cwestiwn, Iddew oedd Lewald, a dylai felly golli ei swydd fel cadeirydd y Pwyllgor Trefnu. Yn dilyn pwysau gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, cafodd Lewald barhau鈥檔 cadeirydd, ar yr amod ei fod yn gadael y Pwyllgor cyn gynted ag yr oedd y G锚mau鈥檔 dod i ben.鈥
鈥淵n ystod y Rhyfel, bu iddo symud yn yr un cylchoedd 芒鈥檙 athrawes ddysgedig, Dr Dorothea Wegle, oedd yn hanu o deulu dosbarth canol-uwch yn yr Almaen.鈥
鈥淩oedd hi鈥檔 un o niferoedd eraill o gefndir tebyg a oedd yn ddirmygus o Hitler a鈥檙 Nats茂aid.鈥
Y llythyr efo llofnod Hitler arno鈥淩oedd ei dirmyg tuag at Hitler a鈥檙 blaid Nats茂aidd yn hysbys i lawer yn lleol, ac aeth i drafferthion oherwydd hyn ac fe鈥檌 gorfodwyd i roi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd, a hynny er iddi fod yn athrawes wych ac ysbrydoledig. Ychydig cyn iddi adael ei swydd addysgu, cyfarfu 芒 Theodor Lewald. Sylweddolodd yntau ei bod hi mewn perygl mawr. 鈥楻oedd yr Almaen yn colli鈥檙 rhyfel, a gallai unrhyw rai a gyhuddid o wangalonni neu o ymosod ar Hitler a鈥檙 blaid eu cael eu hunain o flaen Llys y Bobl a wynebu cyfnod hir o garchar neu hyd yn oed ddedfryd o farwolaeth. Rhoddodd Lewald iddi鈥檙 llythyr, gan ddweud wrthi am gadw鈥檙 llythyr gyda hi bob amser, a phe bai hi rywdro鈥檔 cael ei stopio neu ei holi gan y Gestapo, y dylai ei ddangos iddynt. Gobaith Lewald oedd y byddai llythyr wedi ei lofnodi gan Hitler yn rhyw fath o warant o ddiogelwch iddi.鈥
Cadwodd Dorothea鈥檙 llythyr gyda hi ac, yn eironig, ar 么l y rhyfel, roedd hi鈥檔 dal i鈥檞 gario o gwmpas yn ei bag. Ddechrau鈥檙 1960au, rhoddodd y llythyr i Renate Ellis Jones a fu鈥檔 ddisgybl iddi.
Meddai Mrs Renate Ellis Jones: 鈥淩wy鈥檔 teimlo鈥檔 ffodus fy mod wedi cael cyfeillgarwch oes 芒 Dorothea Wegle. Cafodd fy nghyfeillgarwch 芒 hi effaith fawr ar fy mywyd. Y prif bethau oedd ei bod wedi ysgogi ynof gariad at y Saesneg a鈥檓 sbardunodd i astudio鈥檙 iaith a dod i Loegr wedi鈥檙 rhyfel, a hefyd gariad at Roeg Clasurol. Dyna pam yr es i Wlad Groeg a sut y cyfarf没m 芒鈥檓 g诺r o Gymro a鈥檌 briodi.
Credaf ei bod wedi rhoi鈥檙 llythyr i mi am ei bod hi鈥檔 awyddus i gael rhywbeth yr oedd hi鈥檔 rhoi gwerth mawr arno.鈥
Oriau agor Prir Llyfrgell y Celfyddydau: Llun-Iau 8.45am-9pm Gwener 8.45am-8pm Sadwrn & Sul 12-5pm nes 17.12.10
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010