Rhodd o gymorth o Fangor i Japan
chwith -dde: Emanuella Zanotti, Atsushi Kajimoto, Koichi Shinada, Yukako Tanaka, Chie TakahashiMae myfyrwyr o Japan sy鈥檔 astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi medru cyfrannu dros 拢7,500 tuag at Gymdeithas y Groes Goch Japan.
Codwyd yr arian drwy eu hymdrechion, ac ar y cyd efo 鈥樅诹喜淮蜢 dros Japan鈥, wrth drefnu digwyddiadau a hel arian mewn mannau cyhoeddus, ar Stryd Fawr 黑料不打烊 yng Nghaernarfon ac o amgylch Prifysgol 黑料不打烊. Bydd yr arian yn cael ei defnyddio ar gyfer yr argyfwng yn sgil y daeargryn a tsunami a ddigwyddodd mis diwethaf.
Meddai Atsushi Kajimoto ar ran 黑料不打烊 dros Japan: 鈥淗offem ddiolch i bawb a gyfrannodd am eu cefnogaeth. Llwyddwyd i gasglu 拢7,535.97, a fydd yn cael ei defnyddio i helpu dioddefwyr ailadeiladu鈥檜 bywydau a鈥檜 cymunedau.鈥
Meddai un o鈥檙 myfyrwyr, Chie Takahashi: 鈥淗offwn ddweud diolch mawr iawn i bawb am y gefnogaeth rydym wedi derbyn. Mae pob rhodd a neges o gefnogaeth yn galondid i bobol yn Japan ac i ninnau ym Mangor. Rydym wedi gwerthfawrogi sut y mae myfyrwyr o Japan a diwylliant Japan wedi鈥檌 dderbyn yn lleol ym Mangor a Gogledd Cymru.鈥
Roedd y digwyddiadau a drefnwyd yn cynnwys gweithdy diwylliant Japaneaidd a digwyddiad o鈥檙 enw 鈥楪anbare Nippon!鈥 (鈥榩eidiwch roi鈥檙 gore iddi, Japan!鈥)
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2011