Rhoi gwyddoniaeth ar y blaen yng Nghymru yn 2016
Yn dilyn cyflwyno鈥檙 cais cynllunio manwl ffurfiol ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arfaethedig Menai (), sef project dan arweiniad Prifysgol 黑料不打烊, i Gyngor Ynys M么n ym mis Rhagfyr, mae Cyfarwyddwr M-SParc, Ieuan Wyn Jones, yn edrych yn 么l ar flwyddyn arwyddocaol i鈥檙 parc gwyddoniaeth penodol cyntaf yng Nghymru, sy鈥檔 ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy鈥檔 addo bod yn ddyfodol cyffrous i ymdrech wyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru yn 2016 a thu hwnt.
鈥淏u鈥檔 dipyn o flwyddyn. Ar 么l derbyn caniat芒d cynllunio amlinellol gyda chymeradwyaeth unfrydol ym mis Mai 2015, mae M-SParc wedi datblygu鈥檔 gyflym. Ein nod yw creu economi glwstwr unigryw i annog partneriaethau rhwng diwydiant uwchdechnoleg ac ymchwil wyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru.
鈥淩hoddwyd hwb sylweddol i鈥檙 cynlluniau ar gyfer M-SParc ym mis Hydref yn dilyn llwyddiant i sicrhau 拢10.2 miliwn o gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru (WEFO). Roedd y prosiect eisoes wedi sicrhau buddsoddiad 拢10.8 miliwn cytunedig gan Lywodraeth Cymru, ond fe wnaeth cytundeb WEFO gwblhau鈥檙 pecyn cyllid a refeniw o 拢21 miliwn yr oedd ei angen i wireddu鈥檙 weledigaeth gyffrous hon ar gyfer y rhanbarth.
鈥淢ae鈥檙 weledigaeth hon wedi鈥檌 seilio ar greu cyfleoedd cyflogaeth tra medrus, tymor hir, datblygu amgylchedd rhannu gwybodaeth a chreu canolfan economaidd mewn sectorau fel carbon isel, ynni, yr amgylchedd a TGCh.
Pe roddid caniat芒d cynllunio llawn, bydd y parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmn茂au arloesol a Phrifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 berchen ar M-SParc yn gyfan gwbl. Mae鈥檔 ddyddiau cynnar, ond rydym eisoes yn cynnal trafodaethau 芒 nifer o denantiaid posibl o amrywiaeth o sectorau i feddiannu鈥檙 parc.鈥
鈥淵n rhan o鈥檙 paratoadau hyn, gwnaethom gyflogi鈥檙 penseiri FaulknerBrowns i gynllunio鈥檙 adeilad cyntaf ar y safle. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn Gaerwen y llynedd hefyd, a groesawodd aelodau鈥檙 cyhoedd ac a roddodd gyfle iddynt weld y cynlluniau hyn drostynt eu hunain. Mae鈥檙 cynlluniau ar gyfer yr adeilad cyntaf, sy鈥檔 rhan o鈥檙 cais cynllunio ffurfiol a gyflwynwyd yn ddiweddar, ar gael ar wefan M-SParc hefyd, ac mae鈥檙 adborth arnynt wedi bod yn dda hyd yma.
鈥淥s llwyddwn i gael caniat芒d cynllunio llawn yn ddiweddarach yn y gwanwyn, gobeithiwn allu penodi prif gontractwr ar gyfer y prosiect yn fuan wedi hynny. Fodd bynnag, er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw waith tir sylfaenol ar y safle ac yn rhan o鈥檙 amodau ar gyfer y caniat芒d cynllunio llawn, rydym wedi penodi un o fyfyrwyr rhyngwladol Prifysgol 黑料不打烊, sef Nebu George, yn intern archaeoleg Parc Gwyddoniaeth Menai Ltd. Dewiswyd Nebu, sy鈥檔 wreiddiol o Mumbai, India, yn rhan o Gynllun Interniaeth Israddedigion Prifysgol 黑料不打烊, a weinyddir gan d卯m Dyfarniad Cyflogadwyedd 黑料不打烊 yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
鈥淲rth i ni symud i鈥檙 cam nesaf yn natblygiad y parc, mae鈥檔 ymddangos yn briodol i ni ddiweddaru ein presenoldeb ar-lein i adlewyrchu ein huchelgeisiau fel y parc gwyddoniaeth penodol cyntaf yng Nghymru. Cynlluniwyd y wefan ddwyieithog 鈥 鈥 yng ngogledd Cymru gan yr asiantaeth greadigol blah d blah. Mae鈥檔 cynnwys gwybodaeth gefndir am y parc gwyddoniaeth, cyflwyniadau i aelodau staff allweddol yn ogystal 芒鈥檙 newyddion diweddaraf a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae鈥檙 wefan hefyd yn cynnwys dolenni i gyfrifon Twitter (@M_SParc), Facebook (www.facebook.com/ MenaiSciencePark) a Youtube y parc gwyddoniaeth.
鈥淩ydym wedi datblygu llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae cryn dipyn i鈥檞 wneud o hyd cyn y gallwn ddechrau codi鈥檙 adeilad cyntaf ar y safle. Fodd bynnag, gobeithiwn y gallwch ymuno 芒 ni wrth i ni ddechrau鈥檙 daith gyffrous hon.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2016