Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr
David McGinty a Sarah Somerville, dau o'r actorion yn y ddrama Food Bank as it isMae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol 黑料不打烊 yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd.
Bydd 鈥楶overty: Local, National and International鈥 yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae鈥檙 digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau G诺yl Gwyddorau Cymdeithas sy鈥檔 digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.
Hefyd yn cymryd rhan bydd gr诺p theatr, Empty Plate Productions, a berfformiodd yn ddiweddar o flaen Jeremy Corbyn ac aelodau seneddol eraill yn Nh欧`r Cyffredin. Bydd y gr诺p yn perfformio鈥檜 drama rymus, Food Bank As It Is, am yr ail dro y tu allan i Lundain.
Ysgrifennwyd Food Bank As It Is gan reolwr Banc Bwyd, Tara Osman, ac fe鈥檌 cynhyrchwyd a鈥檌 pherfformio gan gr诺p o actorion amatur a ffrindiau. Maent wedi rhoi wyth perfformiad ar draws Llundain, ac un yn Oxfam House yn Rhydychen, a oedd yn rhan o Ddiwrnod Bwyd y Byd.
Esboniodd Tara yr hyn a鈥檌 symbylodd i ysgrifennu鈥檙 ddrama:
"Roeddwn yn dod yn gynyddol ymwybodol o鈥檙 nifer o bobol, a phlant di-ri, oedd yn mynd heb fwyd ac yn newynog gan nad yw鈥檙 sustem buddiannau lles yn addas i鈥檞 diben. Dydi鈥檙 ffaith fod yna blant neu oedolion bregus mewn t欧 yn gwneud dim gwahaniaeth. Rwyf wedi ysgrifennu鈥檙 ddrama gan fy mod yn credu bod yr hyn sy鈥檔 digwydd i鈥檙 bobol yma yn annerbyniol yn foesol ac angen ei herio nes iddo ddod i ben."
Disgrifiodd Patrick Butler o`r Guardian y ddrama fel "drama bynciol o bwys am dlodi, defnyddio banciau bwyd a鈥檙 hyn sy鈥檔 ei gynnal.鈥
Bydd y sgyrsiau yn y bore yn canolbwyntio ar faterion cyfoes fel tlodi byd eang, anghydraddoldeb, diffyg gweithio a defnyddio banciau bwyd.
Bydd Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, yn edrych ar dlodi yng Nghymru a thlodi byd-eang. Bydd yn esbonio pam fod tlodi cymharol yng Nghymru mor anodd i`w drechu er ymgyrchoedd polisi i`w ddatrys. Bydd hefyd yn egluro pam fod honiad y Cenhedloedd Unedig fod tlodi byd-eang wedi lleihau yn cael ei herio, gyda rai ysgolheigion yn amcangyfrif bod 4 biliwn o boblogaeth y byd yn byw mewn tlodi.
Bydd David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas, yn trafod ei waith ymchwil ar y cynnydd a welwyd mewn defnyddio banciau bwyd yng Nghymru.
Hefyd bydd Louise Prendergast, myfyriwr 么l-radd, yn rhannu ei gwaith ymchwil PhD a fu鈥檔 ymchwilio i safbwyntiau pobol ifanc tuag at waith a lles a鈥檜 profiadau yn y maes hwnnw. Mae ei chanfyddiadau yn pwysleisio鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu pobol ifanc ddi-waith wrth ymdrin 芒鈥檙 system budd-daliadau, costau ariannol, straen ac anniogelwch. Mae i鈥檙 rhain oblygiadau posib ar gyfer rhai fydd yn gwneud cais am Gredyd Cyffredinol (Universal Credit). Er enghraifft, dan Gredyd Cyffredinol, bydd rhaid i ymgeiswyr sydd yn ennill lleiafswm cyflog am lai na 35 awr yr wythnos ddangos tystiolaeth eu bod yn chwilio am ragor o oriau. Mae鈥檙 rheidrwydd i chwilio am waith wedi bod ynghlwm 芒 budd-daliadau diweithdra, ond dan Gredyd Cyffredinol caiff ei ymestyn i rai sydd eisoes mewn gwaith. Rhoddir cosbau a dirwyon am beidio 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 gofynion.
Dywedodd Jackie Blackwell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Ynys M么n:
鈥淢ae tlodi yn byrhau bywydau pobol a鈥檌 wneud yn fwy creulon nag sydd raid iddo fod. Nid dewis ffordd o fyw yw tlodi, ac mae鈥檔 fwy na dim ond bod ar incwm isel a mynd heb bethau angenrheidiol. Mae鈥檔 ymwneud hefyd 芒 chael eich amddifadu o rym, parch, iechyd da, addysg, tai, hunan-barch sylfaenol a鈥檙 gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.
Mae鈥檔 hanfodol bod ymchwil yn cael ei chynnal i bob agwedd ar dlodi, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yn rhyngwladol, ac i鈥檙 Llywodraeth a phartneriaid allweddol weithio鈥檔 effeithiol i`w liniaru. Mae鈥檙 digwyddiad yma鈥檔 arbennig o berthnasol oherwydd effeithiau andwyol y Diwygio Lles ar rai teuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn clywed sut y bydd y gwaith hwn, a noddir gan yr ESRC, yn effeithio ar fusnesau, y sector cyhoeddus a chymdeithas sifil ac yn cyfrannu at ba mor gystadleuol yw鈥檙 Deyrnas Unedig yn y byd, effeithiolrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus, ac ansawdd bywydau pobol.鈥
Gall pobol sydd eisio ymuno 芒`r digwyddiad undydd yn Neuadd John Phillips, Ffordd y Coleg, 黑料不打烊 ar 8 Tachwedd gofrestru am docyn am ddim yma:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017