Rhwydweithiau newydd gwerth 拢21 miliwn yn rhoi hwb i ymchwil gwyddonol yng Nghymru
Heddiw (13 Mawrth), roedd Edwina Hart yn dathlu cwblhau cam cyntaf o raglen 拢50 miliwn S锚r Cymru y Llywodraeth. Nod y rhaglen yw denu talent gwyddonol i Gymru drwy lansio tair Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol.
Bydd y rhwydweithiau鈥檔 cael 拢21 miliwn o gyllid rhaglen ac yn ychwanegu at yr ymchwil rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru ym maes meddyginiaethau newydd, peirianneg arloesol a thaclo heriau ynni gwyrdd.
Dengys adroddiad diweddar bod ansawdd yr ymchwil gwyddonol a wneir yng Nghymru yn well na鈥檙 ymchwil a wneir mewn gwledydd o faint tebyg ond, mae angen mwy o ymchwilwyr arnom ni. Bydd Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol S锚r Cymru鈥檔 buddsoddi mwy mewn ymchwil mewn tri maes Her Fawr 鈥 ardaloedd yng Nghymru sydd 芒鈥檙 mwyaf o botensial.
Yr Athro Javier Bonet sy鈥檔 arwain y Rhwydwaith Uwch Beirianneg a Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe a chyfarwyddwyr Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Prifysgol Caerdydd yw鈥檙 Athrawon Malcolm Mason a Chris McGuigan. Y trydydd Rhwydwaith yw鈥檙 un ar a鈥檙 Athro David N Thomas yw鈥檙 cadeirydd.
Mae hyn yn dilyn penodi tri Athro byd enwog yn Gadeiryddion Ymchwil S锚r Cymru yn y tri maes pwnc sy鈥檔 鈥淗er Fawr鈥 i ni.
Bydd pob rhwydwaith yn datblygu prosiectau ymchwil yn eu meysydd pwnc ar y cyd ag athrofeydd addysg uwch a chyrff eraill ledled Cymru a thu hwnt. Bydd pob rhwydwaith yn cael 拢7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i benodi myfyrwyr PhD a chymrodyr i ddatblygu ymchwil newydd ac i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru.
Wrth siarad yn y lansiad heddiw yn y Brifysgol, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth: 鈥淢ae gwyddoniaeth ac arloesi yn gonglfeini allweddol i economi ffyniannus. Os ydym am wella ein lles economaidd a chreu dyfodol ffyniannus i Gymru, mae鈥檔 rhaid i ni hybu ymchwil gwyddonol. Mae ymchwilwyr Cymru ymysg y gorau yn y byd o ran yr arian a fuddsoddir. Mae Rhwydweithiau S锚r Cymru yn ceisio cynyddu鈥檙 arian a fuddsoddir yng ngwyddorau Cymru trwy gefnogi a rhagori ym maes ymchwil.鈥
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: 鈥淔el y dengys adroddiad Elsevier, mae ymchwil o ansawdd uchel a rhagorol eisoes yn cael ei wneud yma yng Nghymru ond mae angen i ni wneud mwy. Bydd y rhwydweithiau hyn yn ein helpu i gyflawni mwy yn y meysydd sydd 芒鈥檙 potensial i greu buddiannau economaidd a chymdeithasol hirdymor yng Nghymru a thu hwnt; mae prosiectau cyffrous eisoes ar waith. Er enghraifft, mae un o鈥檙 rhwydweithiau鈥檔 gwneud ymchwil i laswelltir all amsugno mwy o dd诺r glaw er mwyn lleihau llifogydd, deunyddiau adeiladu sy鈥檔 defnyddio鈥檙 haul i gynhyrchu ynni a thriniaethau newydd ar gyfer rhai o鈥檔 clefydau mwyaf heriol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014