Safle Ymchwil yn cynnig y Cyfleusterau Diweddaraf i helpu鈥檙 diwydiant 'Gwyrdd鈥.
Mae safle diwydiannol 拢1M, dan ofal y (Prifysgol 黑料不打烊) ar Yst芒d Ddiwydiannol Llangefni ym Mona, wedi bod yn helpu cwmn茂au lleol i brofi dewisiadau ecogyfeillgar eraill yn lle cynhyrchion presennol.
Mae offer newydd ar y safle, a brynwyd fel rhan o broject BEACON 拢20M, wedi galluogi Canolfan Trosglwyddo Technoleg Biogynhyrchion a Bioburo Prifysgol 黑料不打烊 ym Mona i weithio gyda diwydiant i gynhyrchu deunyddiau cyfansawdd newydd i鈥檙 sectorau adeiladu a phecynnau. Mae鈥檙 ganolfan hefyd yn galluogi cwmn茂au i weithio gyda Phrifysgol 黑料不打烊 i ddwysau鈥檙 gwaith o echdynnu cemegolion gwerth uchel o safleoedd, gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd ar raddfa fach mewn amgylchedd labordy arferol. Gellir defnyddio'r cemegolion hyn mewn amryw o ffyrdd yn y sectorau cosmetig, meddygol a maethroddi.
Mae鈥檙 Ganolfan Trosglwyddo Technoleg yn rhan o鈥檙 project Cymru gyfan, BEACON, partneriaeth rhwng prifysgolion 黑料不打烊, Aberystwyth ac Abertawe, sy鈥檔 helpu cwmn茂au lleol yng Nghymru i ganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio planhigion a sgil-gynhyrchion planhigion.
Mae鈥檙 Ganolfan yn adnodd gwerthfawr i ddiwydiant. Mae cwmn茂au sy鈥檔 gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau鈥檔 gallu mynd at yr offer ymchwil a datblygu diweddaraf. Gallant brofi a datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd heb orfod cau eu safleoedd cynhyrchu eu hunain.
Meddai'r Dr Adam Charlton o鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion 鈥淢ae鈥檙 cyfleuster hwn yn gweithio鈥檔 dda. Eisoes mae gennym brojectau cydweithredol llwyddiannus ar y gweill gyda chwmn茂au lleol a bob wythnos mae mwy o gwmn茂au鈥檔 dod ar ein gofyn.
Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd i ddangos y safle, dywedodd Mr Ieuan Wyn-Jones, AC Ynys M么n:
"Rwy'n gwbl gefnogol i'r project hwn ym Mona, sy'n darparu cyfleusterau ymchwil mawr ei angen ar gyfer ein sector cynhyrchu. Bydd yn sector cynhyrchu yn chwarae rhan allweddol wrth i'r economi dyfu allan o'r dirwasgiad. Bydd y gwaith a wnaed gan BEACON a Phrifysgol 黑料不打烊 wrth sefydlu'r Ganolfan yn sicrhau bod cynnyrch cynaliadwy ar gael yn lleol ac yn sicrhau hwb i'r economi yma yn Ynys M么n a ledled gogledd Cymru."
Meddai鈥檙 Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淩ydym ni wrth ein bodd yn gallu gweithio gyda鈥檔 partneriaid BEACON a chyda diwydiant i harneisio鈥檙 arbenigedd yn y brifysgol er lles yr economi werdd yng Nghymru a鈥檙 tu hwnt鈥.
Astudiaeth Achos
MDF Recovery Ltd - sydd wedi ei leoli yn Ynys M么n
Mae MDF Recovery Ltd wedi datblygu proses newydd i adennill ffibrau pren o MDF gwastraff. Hyd yma, tirlenwi neu losgi oedd yr unig ddewisiadau i waredu MDF. Mae adennill MDF yn ateb ecolegol gwell i'r broblem o waredu MDF, oherwydd mae'n creu ffynhonnell deunydd crai newydd i'r diwydiant ffibrau pren/naturiol y gellir ei defnyddio yn lle coed newydd.
Gellir ailddefnyddio鈥檙 ffibrau hyn a adenillwyd i gynhyrchu rhagor o MDF neu at amrywiaeth o ddibenion diwydiannol eraill megis cynhyrchion ynysu thermol, tanwyddau biomas neu gyfansoddion plastig pren. Mae鈥檙 ffibrau a adenillwyd cystal o ran ansawdd 芒 ffibrau pren newydd ond yn llawer mwy cynaliadwy.
Mae BEACON yn Aberystwyth a 黑料不打烊 a鈥檙 safle ym Mona wedi helpu MDF Recovery i nodweddu'r ffibrau a adenillwyd ganddynt. Rhoddwyd cymorth hefyd trwy gyfres o dreialon ymarferol i ddangos effeithiolrwydd y ffibrau i greu cynhyrchion newydd.
Meddai Craig Bartlett, Cyfarwyddwr MDF Recovery:
Heb arbenigedd 黑料不打烊 ni fyddem wedi gallu datblygu ein technoleg newydd gyffrous i gymaint graddau mewn cyfnod mor fyr. Rydym yn gwneud cynlluniau cyffrous i鈥檙 dyfodol ac rydym yn falch o fod yn gweithio yn Ynys M么n ac wrth ein bodd yn gallu manteisio ar gyfleusterau unigryw Mona. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 yn y blynyddoedd sydd i ddod.
EcoBond Cymru 鈥 Ynys M么n
Mae Ecobond (Cymru) Cyf. yn gwmni sydd yn canolbwyntio ar fasnacheiddio deunyddiau, technolegau a dulliau cynaliadwy a ddefnyddir yn y sectorau adeiladu ac ynni. Mae鈥檔 cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau o astudiaethau dichonolrwydd a cheisiadau grantiau i ymchwil a datblygu uniongyrchol a rheoli projectau datblygu a arweinir gan drydydd parti. Ar hyn o bryd mae鈥檙 cwmni鈥檔 gweithio gyda nifer o gleientiaid gan gynnwys datblygwr teils to cynaliadwy., Mae鈥檙 cleient wedi datblygu proses ynni isel (patent ar y gweill) i fondio agregau eilaidd a gwastraff mwyngloddio'n ddeunydd y gellir ei ddefnyddio i doi a gorchuddio adeiladau. Mae鈥檙 teils a gynhyrchir yn edrych yn debyg i lechi lleol ond maent yn costio llai ac yn fwy cynaliadwy oherwydd eu bod yn defnyddio llai o adnoddau mwynol newydd a llai o ynni ymgorfforedig. Mae Ecobond Cymru鈥檔 gweithio tuag at fasnacheiddio鈥檙 dechnoleg hon.
Mae Ecobond Cymru鈥檔 cydweithio鈥檔 agos 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 i wella ymhellach berfformiad technegol y teils a鈥檜 h么l troed carbon. Trwy ddatblygu a phrofi鈥檙 cynnyrch yn drefnus mae Prifysgol 黑料不打烊 yn helpu Ecobond Cymru i ddod o hyd i agregau eilaidd cynaliadwy o ffynonellau eraill a resinau bioseiliedig eraill yn lle鈥檙 system resin bresennol. Mae鈥檙 gweithgaredd hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Broject Ymchwil Diwydiannol Cydweithredol sy鈥檔 cynnwys part茂on o bob rhan o鈥檙 gadwyn gyflenwi a chafodd grant A4B gan Lywodraeth Cymru.
Mae resinau bioseiliedig yn cael eu gwneud o ddeunyddiau adnewyddadwy megis deunydd planhigion a llysiau. Mae defnyddio resinau o鈥檙 fath sydd hyd yma wedi cael eu cynhyrchu o betrolewm yn arwain at gynnwys carbon ymgorfforedig llawer is ac mae鈥檔 well defnydd o adnoddau. Mae un o鈥檙 bioresinau a brofwyd wedi cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses a ddatblygwyd ac yr enillwyd patent iddo gan Brifysgol 黑料不打烊. Mae'r llechi sy'n cael eu datblygu gan Ecobond Cymru'n rhoi cyfle delfrydol i arddangos y dechnoleg hon er lles masnachol.
Mae EcoBond Cymru wedi codi cyfleuster datblygu ar yr un yst芒d ddiwydiannol 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 ar safle Mona fel y bydd yn gallu manteisio ar y safle a鈥檌 gyfleusterau er mwyn arddangos y teils to鈥檔 fasnachol yn y pen draw. Mae clystyru o鈥檙 fath yn un peth da sydd wedi deillio o鈥檙 project BEACON ac yn pwysleisio鈥檙 angen am gydweithio rhwng y sectorau academaidd a diwydiannol.
Meddai Geraint Williams o Ecobond Cymru:
Mae cydweithio 芒 Phrifysgolion Aberystwyth a 黑料不打烊 wedi bod o fudd i'n busnesau mewn cynifer o ffyrdd, mae eu help a'u cefnogaeth wedi bod yn allweddol i'n strategaeth fusnes a llwyddiant ein busnes yn y farchnad hon.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2012