Sam yn paratoi at gystadleuaeth quidditch yng Nghanada
Bydd myfyriwr o Fangor yn teithio i Ganada yn ystod yr haf er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth quidditch fyd-eang.
Mae Sam Davies, sydd yn fyfyriwr Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o gamp sy鈥檔 gysylltiedig 芒 nofelau a ffilmiau Harry Potter.
Sam Davies
Mae gwledydd ar draws y byd yn cystadlu yn y Global Games - digwyddiad ble gwelir y cystadleuwyr yn defnyddio coesau ysgub i fynd o amgylch y maes.
鈥淩oeddwn yn arfer bod yn ffan mawr o Harry Potter pan oeddwn yn ifanc ac yn mynd i holl berfformiadau cyntaf y ffilmiau a鈥檙 llyfrau. Ond mi wnes i dyfu allan o hyn yn raddol, a phan es i鈥檙 brifysgol a sylwi fod t卯m quidditch yno, roeddwn yn meddwl y byddai鈥檔 gyfle da i ddysgu mwy amdano.鈥 meddai Sam o Benyffordd.
Mae Sam yn chwarae i d卯m lleol 黑料不打烊 Broken Broomsticks a bu鈥檔 lwcus o gael ei ddewis i鈥檙 t卯m Prydeinig yn ddiweddar.
鈥淢ae paratoi at y gystadleuaeth fawr yng Nghanada wedi bod yn dipyn o her. Ar 么l cael fy nerbyn i鈥檙 sgwad Brydeinig, roedd yn rhaid i Andrew Hull, Sally Higginson, Tom Heynes a minnau (o 黑料不打烊 Broken Broomsticks) fynychu treialon ffitrwydd cyn cael bod yn y t卯m cenedlaethol. Cafodd aelodau eraill o 黑料不打烊 Broken Broomsticks, Anna Barton, Lee Marsh, Will Johnson a Ben Honey eu derbyn i鈥檙 sgwad. Rydym ar hyn o bryd yn hyfforddi鈥檔 galed cyn mynd i Ganada ac yn cymryd pob cyfle i ymarfer gydag aelodau o鈥檙 t卯m Prydeinig.鈥
meddai Sam (20).
Er bod quidditch yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang, teimlai Sam fod y gamp yn cael ei chwestiynu鈥檔 aml.
鈥淩wy鈥檔 teimlo鈥檔 hynod falch i gynrychioli fy ngwlad mewn chwaraeon, yn enwedig pan fydd pobl yn dweud nad yw鈥檔 gamp go iawn. Dwi鈥檔 falch o fod yn rhan o d卯m cenedlaethol sydd yn brwydro鈥檔 galed i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ac yn rhoi cyfle i bawb.鈥
Bydd cystadleuaeth Cwpan y Byd Cymdeithas Ryngwladol Quidditch yn digwydd ar Orffennaf 19 yn Burnaby, Canada.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014