Santander yn cefnogi ymchwil iaith
Diolch i un o Ysgoloriaethau Santander bu Robat Trefor, un o fyfyrwyr ymchwil PhD , ar ymweliad 芒 Gwlad y Basg yn ddiweddar, ac roedd yr Athro Peredur Lynch, ei gyfarwyddwr ymchwil a Phennaeth yr Ysgol, yntau鈥檔 rhan o鈥檙 ddirprwyaeth.
Uchafbwynt yr ymweliad 芒 Phrifysgol Gwlad y Basg ar gampws Donastia oedd cael cyfarfod am fore cyfan 芒 Pello Esnal, llenor o bwys ac un o鈥檙 arbenigwyr pennaf ar y Fasgeg. Mae鈥檙 traethawd PhD mae Robat yn gweithio arno yn edrych ar safoni Cymraeg ffurfiol, ac roedd cael clywed am hanes a thrafferthion safoni鈥檙 iaith genedlaethol yno gan gawr yn y maes yn werthfawr eithriadol.
Cafwyd croeso brwd yn y Brifysgol gan yr Athro Jasone Cenoz o鈥檙 Adran Dulliau Ymchwil mewn Addysg, ac aelodau o鈥檌 th卯m hi oedd wedi trefnu鈥檙 cyfarfod 芒 Pello Esnal fel rhan o raglen o ymweliadau ar gyfer y daith. Y tu allan i鈥檙 Brifysgol ei hun aethpwyd hefyd i swyddfa鈥檙 papur dyddiol lleol Hitza yn nhref Zarautz, a chafwyd cyfarfod estynedig arall gyda鈥檙 mudiad ysgolion cyfrwng Basgeg ar gyrion Donastia.
Yn y Brifysgol rhoddodd yr Athro Lynch a Robat sgyrsiau ill dau ar hanes ac ar safoni鈥檙 Gymraeg i鈥檙 staff a鈥檙 myfyrwyr. Bu cyfarfod yn ogystal 芒 Deon y Gyfadran a鈥檙 Is-Ddeon dros Faterion Rhyngwladol lle trafodwyd cael mwy o gysylltiadau rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a Phrifysgol Gwlad y Basg yn y dyfodol, gan gynnwys rhaglen gyfnewid Erasmus.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012